Gareth Bale - yn y garfan
Mae rheolwr Cymru, Gary Speed, wedi cynnwys Aaron Ramsey a Gareth Bale yng ngharfan Cymru i wynebu Lloegr yng Nghaerdydd y penwythnos nesaf.
Dyw Ramsey ddim wedi chwarae dros Gymru ers torri ei goes yn ddrwg ym mis Chwefror y llynedd ac rodd Bale hefyd wedi gorfod colli’r gêm ddiwetha’ yn erbyn Iwerddon.
Mae chwaraewr canol cae Arsenal ac ymosodwr chwith Spurs yn cael eu hystyried yn chwaraewyr allweddol ar gyfer y rownd ragbrofol yn Euro 2012.
Mae Rob Earnshaw a James Collins wedi cael eu cynnwys yn y garfan ar gyfer y gêm yn Stadiwm y Mileniwm ar 26 Mawrth er gwaethaf anafiadau.
Un arall sydd ymhlith y 25 yw amddiffynnwr West Ham, Danny Gabbidon – roedd Gary Speed wedi ei berswadio i newid ei feddwl ynglŷn ag ymddeol o’r maes rhyngwladol.
Carfan Cymru
Golwyr – Wayne Hennessey (Wolves), Boaz Myhill (West Brom), Lewis Price (Crystal Palace).
Amddiffynwyr – Danny Collins (Stoke), James Collins (Aston Villa), Neal Eardley (Blackpool), Danny Gabbidon (West Ham), Chris Gunter (Nottingham Forest), Lewin Nyatanga (Dinas Bryste), Neil Taylor (Abertawe), Ashley Williams (Abertawe).
Canol cae – Joe Allen (Abertawe) Gareth Bale (Tottenham), Andrew Crofts (Norwich), Andy King (Caerlŷr), Joe Ledley (Celtic), Aaron Ramsey (Arsenal), David Vaughan (Blackpool).
Ymosodwyr – Craig Bellamy (Caerdydd), Simon Church (Reading), Rob Earnshaw (Nottingham Forest), Ched Evans (Sheffield Utd), Freddie Eastwood (Coventry), Steve Morison (Millwall), Hal Robson-Kanu (Reading).