Warren Gatland - 'Ffrainc yn beryglus'
Mae hyfforddwr Cymru wedi rhybuddio y bydd y Ffrancod yn beryglus iawn yn y gêm ryngwladol fory, ar ôl colli i’r Eidal wythnos yn ôl.
Yn ôl Warren Gatland, fe fydd chwaraewyr Ffrainc yn eiddgar i wneud argraff wrth i Gwpan y Byd nesáu ac fe fyddan nhw am wneud iawn am eu perfformiad gwael yn Rhufain.
Mae hefyd wedi rhoi canmoliaeth fawr i’r asgellwr ifanc o’r Gogledd, George North, sy’n dod i mewn i dîm Cymru oherwydd anaf i Shane Williams.
Mae’n chwaraewr addawol a fydd yn “arbennig” yn y dyfodol, meddai Gatland, wrth i’r chwaraewr 18 oed chwarae am y tro cynta’ ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad a chael ei gap cynta’ oddi cartre’.
Roedd wedi sgorio dau gais yn erbyn De Affrica yn yr hydref cyn iddo golli pedwar mis oherwydd anaf.
“Mae’n dal i ddysgu’r grefft, ond mewn blwyddyn neu ddwy dw i’n credu y bydd yn seren wirioneddol,” meddai Gatland. “Mae ganddo lwyth o dalent, mae’n chwaraewr rygbi deallus iawn ac mae’n gweithio’n galed.”