James Collins
Mae chwaraewr rhyngwladol Cymru, James Collins, wedi cael ei “ddisgyblu’n llym” gan ei glwb, Aston Villa, ac mae’n amheus hefyd a fydd ar gael i chwarae i Gymru yn erbyn Lloegr.
Yn ôl y wasg bêl-droed, roedd Collins a’i bartner yng nghanol amddiffyn Villa, Richard Dunne, wedi cael eu disgyblu ar ôl beirniadu rhai o’r staff hyfforddi.
Fe gadarnhaodd y clwb eu bod wedi gweithredu’n “gadarn” yn erbyn y ddau ar ôl y digwyddiad mewn cwrs ‘cryfhau tîm’ mewn canolfan sba.
Mae’n debyg bod y ddau wedi ymddiheuro a’r dyfalu yw eu bod nhw wedi cael dirwy gwerth pythefnos o gyflog.
Doedd yr un o’r ddau’n cymryd rhan llawn yn y gweithgareddau ar y pryd gan eu bod nhw wedi eu hanafu ac mae Collins yn amheus ar gyfer gêm Cymru ymhen wythnos.