Mae’r Gweilch wedi cyhoeddi eu carfan ar gyfer eu gêm baratoadol gartref gyntaf cyn i’r tymor rygbi newydd ddechrau ar Fedi 2.
Caerlŷr fydd eu gwrthwynebwyr yn Stadiwm Liberty nos Wener (y gic gyntaf am 7.15).
Ar drothwy’r gêm, mae’r prif hyfforddwr Steve Tandy wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen at y “prawf go iawn” yn erbyn “un o’r prif glybiau yn Ewrop”.
Ar ôl y gêm nos Wener, bydd y Gweilch yn teithio i Wlad Belg, lle byddan nhw’n chwarae yn erbyn y tîm cenedlaethol, cyn teithio i Welford Road i herio Caerlŷr unwaith eto ar Awst 26.
Yn ymddangos yn y garfan am y tro cyntaf fydd y blaenasgellwr Rob McCusker, sydd wedi ymuno o’r Scarlets ar gytundeb byr.
Dywedodd Steve Tandy: “Mae’n gêm bwysig i ni gan ein bod ni am adeiladu ar gyfer penwythnos agoriadol y PRO12 ymhen ychydig wythnosau.
“Pan edrychwch chi ar y tîm ry’n ni wedi’i ddewis ar gyfer hon, mae’n dda gweld nerth y dyfnder ry’n ni’n ei adeiladu, ac rydym yn croesawu’r ffaith fod nifer o chwaraewyr yn dychwelyd ar ôl anafiadau, a bod rhai chwaraewyr ifanc wnaeth greu argraff y tymor diwethaf am adeiladu ar hynny.”
Tîm y Gweilch: D Evans, J Hassler, B John, J Matavesi, T Grabham, S Davies, T Habberfield (capten); N Smith, S Parry, D Arhip, T Ardron, R Thornton, O Cracknell, S Otten, D Baker.
Eilyddion: H Gustafson, G Thomas, Ma’afu Fia, L Ashley, J Cole, M Aubrey, A Beck, D Howells, R Bevington, R Jones, R McCusker, L Price, J Thomas, M Williams