Mae trefnwyr Rali Cymru GB wedi cyhoeddi manylion y digwyddiad eleni, fydd yn cael ei gynnal rhwng Hydref 27 a 30.

Yr un fydd y llwybr â hwnnw sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer Pencampwriaeth Ralio’r Byd, ac fe fydd 12 o gymalau dros bellter o 107 o filltiroedd.

Bydd y ras yn dechrau yn y canolbarth ar y bore cyntaf ac yn mynd i Lannau Dyfrdwy cyn gorffen ar y prynhawn cyntaf yng nghanol Caer.

Bydd yr ail ddiwrnod yn dechrau yng nghastell Cholmondeley cyn dychwelyd i Gymru ac i mewn i goedwigoedd Pantperthog, Dyfi, Gartheiniog ac Aberhirnant.

Ar y trydydd diwrnod, bydd y rali’n ymweld â Chlocaenog, Alwen a Brenig, cyn gorffen yn Llandudno.

Ond cyn i’r ras ddechrau, bydd seremoni agoriadol ym Mharc Eirias ym Mae Colwyn ar y dydd Iau.

Mae tocynnau ymlaen llaw ar gael am £25 am docyn diwrnod neu £99 am y pedwar diwrnod – ac mae plant dan 15 oed yn cael mynd yn rhad ac am ddim.