Mae tîm pêl-droed Casnewydd allan o gwpan yr EFL ar ôl ildio mantais o ddwy gôl, wrth iddyn nhw golli gartref o 3-2 yn erbyn MK Dons.

Marlon Jackson sgoriodd y gôl gyntaf i’r Cymry ar ôl 31 o funudau yn dilyn croesiad i’r cwrt cosbi gan Dan Butler.

Cic o’r smotyn gan Mark Randall ddyblodd fantais Casnewydd ar ôl 55 o funudau.

Ond sgoriodd Dean Bowditch ddwy gôl yn yr ail hanner, gan gynnwys y gôl dyngedfennol yn yr ail hanner i sicrhau’r triphwynt.

Ben Tilney sgoriodd yr ail i’r Saeson ar ôl 70 o funudau.

Ar ôl y gêm, dywedodd rheolwr Casnewydd, Warren Feeney ei fod yn “grac” gyda’r canlyniad.