Sicrhaodd Wrecsam eu buddugoliaeth gynta’r tymor hwn yn y Gynghrair Genedlaethol oddi cartref yn Guiseley nos Fawrth.
Y Saeson aeth ar y blaen wedi 11 o funudau drwy ergyd gan Michael Rankine, ond tarodd y Cymry’n ôl o’r smotyn drwy John Rooney.
Aethon nhw ar y blaen gyda pheniad gan Gerry McDonagh yn yr ail hanner, ond roedd y sgôr yn gyfartal unwaith eto wrth i Jake Lawlor rwydo chwe munud cyn diwedd y 90 munud.
Ond ergyd wych gan Paul Rutherford sicrhaodd y pwyntiau i Wrecsam yn yr amser a ganiateir am anafiadau.
Ar ddiwedd yr ornest, talodd rheolwr Wrecsam, Gary Mills deyrnged i Rutherford am ei berfformiad “gwefreiddiol”.