Mae hyfforddwr golwyr Cymru, Martyn Margetson wedi ymuno â thîm hyfforddi Lloegr.

Roedd Margetson yn aelod o dîm hyfforddi Cymru am bum mlynedd a hanner.

Fe fydd yn parhau yn ei swydd fel hyfforddwr golwyr Caerdydd am y tro.

Ond bydd ei swydd newydd yn ei weld yn ail-ymuno â Sam Allardyce, ar ôl i’r ddau gydweithio yn West Ham yn y gorffennol.

Dywedodd Martyn Margetson fod ganddo fe “gyfle gwych” i gydweithio ag Allardyce.

“Mae gan Loegr griw eithriadol o golwyr sy’n gweithio ar y lefel uchaf ac rwy’n edrych ymlaen at y cyfle i weithio’n agos â nhw.”