Gweilch 26–46 Ulster
Mae gobeithion y Gweilch o chwarae yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesaf ar ben wedi iddynt golli yn erbyn Ulster yng ngêm olaf y tymor brynhawn Sadwrn.
Roedd angen buddugoliaeth ar y Gweilch os am unrhyw obaith o orffen yn chwech uchaf y Guinness Pro12, ond er iddynt sgorio pedwar cais ar y Liberty, nid oedd hynny’n ddigon wrth i Ulster groesi am chwech mewn buddugoliaeth gyfforddus.
Hanner cyntaf
Trosgais Dan Biggar a oedd pwyntiau cyntaf y gêm, maswr y Gweilch yn croesi o dan y pyst cyn ychwanegu’r trosiad.
Ymatebodd Ulster gyda throsgais gan eu maswr hwythau, Paddy Jackson, ac roeddynt ar y blaen wedi i gapten Iwerddon, Rory Best, dorri trwy amddiffyn y Gweilch yn rhy rhwydd o lawer i sgorio ail gais ei dîm.
Tarodd y Gweilch yn ôl wrth i Josh Matavesi ymestyn at y gwyngalch am ail gais y Gweilch ond Ulster a gafodd y gair olaf cyn yr egwyl wrth i gic hir adlamu’n garedig i ddwylo Andrew Trimble am gais arall i’r ymwelwyr, 14-21 y sgôr o blaid y Gwyddeload ar yr egwyl.
Ail Hanner
Er mai dim ond un sgôr oedd ynddi wrth droi fe aeth Ulster a’r gêm o afael y Gweilch yn hanner cyntaf yr ail hanner. Ciciodd Paddy Jackson ddwy gic gosb o bobtu cais i Chris Henry, pedwerydd cais Ulster yn sicrhau pwynt bonws.
Creodd Tom Grabham gryn argraff oddi ar y fainc i’r Gweilch gyda dau gais i’r tîm cartref yn y chwarter olaf.
Ond roedd amddiffyn y Cymry ar chwal yn y pen arall a chroesodd Stuart Olding a Franco van der Merwe am geisiau i’r ymwelwyr hefyd. Buddugoliaeth gyfforddus i Ulster yn y diwedd, 26-46 y sgôr terfynol.
Mae’r canlyniad yn golygu fod y Gweilch yn gorffen y tymor yn wythfed yn nhabl y Pro12, wyth pwynt y tu ôl i Munster yn yn chweched safle holl bywsig.
.
Gweilch
Ceisiau: Dan Biggar 11’, Josh Matavesi 35’, Tom Grabham 65’, 74’
Trosiadau: Dan Biggar 12’, 36’, 75
.
Ulster
Ceisiau: Paddy Jackson 16’, Rory Best 26’, Andrew Trimble 39’, Chris Henry 55’, Stuart Olding 68’, Franco van der Merwe 76’
Trosiadau: Paddy Jackson 17’, 27’, 40’, 56’, 69’
Ciciau Cosb: Paddy Jackson 41’, 58’