Caerdydd 1–1 Birmingham
Gorffennodd Caerdydd y tymor gyda gêm gyfartal gartref yn erbyn Birmingham yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sadwrn.
Mae’r Adar Gleision yn gorffen y tymor yn wythfed yn y Bencampwriaeth wedi pwynt yng ngêm olaf Russell Slade fel rheolwr.
Gŵr o Gaerdydd a agorodd y sgorio wedi deg munud, ond yn anffodus i’r cefnogwyr cartref, crys Birmingham a oedd amdano, David Cotterill yn rhoi’r ymwelwyr ar y blaen.
Roedd yr Adar Gleision yn gyfartal cyn yr egwyl serch hynny diolch i Anthony Pilkington, yr asgellwr yn manteisio ar amddiffyn gwael i rwydo.
Digon diflas a oedd yr ail hanner ac efallai fod pwynt yr un yn ganlyniad teg. Eilydd yr ymwelwyr, James Vaughan, a ddaeth agosaf at sgorio gôl fuddugol ond tarodd ei gynnig ef y postyn.
Mae Caerdydd yn llithro un lle wrth orffen y tymor yn wythfed yn y Bencampwriaeth.
.
Caeryddd
Tîm: Marshall, Peltier, Connolly, Turner (Ecuele Manga 81’), Malone, Noone, O’Keefe, Wittingham, Lawrence (Harris 74’), Pilkington, Immers (Zohore 67’)
Gôl: Pilkington 26’
Cardiau Melyn: Connolly 19’, Lawrence 31’, Wittingham 51’, Turner 60’
.
Birmingham
Tîm: Legzdins, Spector, Morrison, Robinson, Kieftenbeld, Adams (Gleeson 71’), Cotterill, Fabbrini (Vaughan 85’), Davis (Solomon-Otabor 79’), Donaldson
Gôl: Cotterill 11’
Cardiau Melyn: Spector 31’, Kieftenbeld 35’
.
Torf: 21,022