Russell Slade
Bydd Russell Slade yn rheolwr Caerdydd am y tro olaf yfory ar gyfer eu gêm gartref yn erbyn Birmingham.

Wedi hynny bydd y tymor wedi dod i ben a Chaerdydd yn penodi rheolwr newydd.

Ond nid yw Russell Slade yn gadael y clwb – bydd yn bennaeth pêl-droed gyda chyfrifoldeb am sgowtio am chwaraewyr.

Bu’n rheolwr ar Gaerdydd ers Hydref 2014, ond wedi’r golled i Sheffield Wednesday ddydd Mercher, a roddodd y fwyell i obeithion y clwb o gyrraedd y gemau ail-gyfle, daeth terfyn ar ei gyfnod wrth y llyw.