Mae Eddie James, canolwr y Scarlets, wedi’i ychwanegu at garfan rygbi Cymru ar gyfer gemau’r haf.

Dydy e ddim wedi ennill ei gap cyntaf eto, ac mae’n ymuno â Jacob Beetham, Ellis Bevan, Keelan Giles a Josh Hathaway, y pedwar arall heb gap yn y garfan.

Bydd tîm Warren Gatland yn herio De Affrica yn Twickenham ar Fehefin 22, cyn teithio i Awstralia ar gyfer dwy gêm brawf ac un gêm yn erbyn y Queensland Reds.

Mae disgwyl i Gymru gyhoeddi’r garfan o 34 chwaraewr i deithio i Awstralia yn dilyn y gêm yn erbyn De Affrica.

Cory Hill a Liam Williams yn dychwelyd i garfan rygbi Cymru

Mae Warren Gatland wedi enwi carfan 36 dyn ar gyfer gemau’r haf yn erbyn De Affrica ac Awstralia