Bydd gan dîm pêl-droed Cymru gapten newydd ar gyfer eu gêm gyfeillgar yn erbyn Gibraltar heno (nos Iau, Mehefin 6).
Josh Sheehan fydd yn gwisgo’r band yn absenoldeb Aaron Ramsey, sydd yn un o nifer o chwaraewyr profiadol sydd ddim yn y garfan, ynghyd â Wayne Hennessey, Neco Williams, Harry Wilson a David Brooks.
Roedd Sheehan yn ddewis annisgwyl, efallai, ac yntau ond yn ennill ei chweched cap dros ei wlad heno ac erioed wedi dechrau yn y crys coch, gyda rhai yn teimlo mai Ethan Ampadu fyddai’r dewis naturiol.
Mae’r tîm sydd wedi’i ddewis yn awgrymu bod y rheolwr Rob Page yn edrych tua’r gêm gyfeillgar yn erbyn Slofacia ddydd Sul (Mehefin 9).
Mae chwech o chwaraewyr yn y garfan sydd heb ennill eu cap cyntaf eto, sef Lewis Koumas (Lerpwl), Charlie Crew (Leeds), Jay Dasilva (Coventry), Fin Stevens (ar fenthyg gyda Rhydychen o Brentford), Tom King (Wolves) a Matt Baker (Stoke).
Yn eu gêm ddiwethaf yn erbyn Gibraltar fis Hydref y llynedd, enillodd Cymru o 4-0.
Y gêm heno yw’r gyntaf ers i Gymru golli allan ar le yn yr Ewros, ar ôl colli’r gêm ail gyfle ar giciau o’r smotyn yn erbyn Gwlad Pwyl ym mis Mawrth.