Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi cadarnhau bod y rheolwr Erol Bulut wedi llofnodi cytundeb dwy flynedd i barhau’n rheolwr.

Bydd y cytundeb yn ei gadw gyda’r clwb tan haf 2026.

Dywed y clwb eu bod nhw wedi cynnal “trafodaethau adeiladol”, gyda’r bwriad o wella strwythurau a phrosesau mewnol, a’u bod nhw hefyd wedi trafod chwaraewyr i’w targedu er mwyn cryfhau’r garfan cyn dechrau tymor 2024-25.

Dywed Vincent Tan, percchennog Caerdydd, fod y clwb wedi gwneud cynnydd o dan ei reolaeth, a’i fod e “wedi gosod seiliau cadarn i adeiladu arnyn nhw”.

Dywed Erol Bulut ei fod e’n “falch a hapus iawn” ar ôl llofnodi’r cytundeb newydd ac ymestyn ei gyfnod wrth y llyw yn y brifddinas.

Ychwanega ei bod hi’n “fraint cael bod yn rhan o’r teulu” yng Nghaerdydd.

Caerdydd

Disgwyl i reolwr Caerdydd lofnodi cytundeb newydd

Fe fu cryn ddyfalu am ddyfodol Erol Bulut ers tro, ond gallai’r clwb gyhoeddi yn y dyddiau nesaf ei fod e am aros