Mae disgwyl i Erol Bulut, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, lofnodi cytundeb newydd i aros gyda’r clwb.
Fe fu cryn ddyfalu ers tro ynghylch ei ddyfodol, ac erbyn hyn mae lle i gredu mai materion cyfreithiol yn unig sydd i’w datrys cyn bod cyhoeddiad swyddogol gan yr Adar Gleision.
Mae ei gytundeb blwyddyn presennol yn dod i ben dros yr haf, ac fe fu trafodaethau ynghylch cytundeb newydd ar y gweill ers mis Ebrill.
Roedd Bulut wedi cael ei gysylltu â nifer o swyddi eraill, ond mae’n ymddangos bellach y bydd e’n aros yn y brifddinas am y tro.
Ar ôl brwydro yn erbyn y gwymp dros y ddau dymor blaenorol, gorffennodd Caerdydd yn ddeuddegfed yn ystod blwyddyn gynta’r rheolwr wrth y llyw, er iddo fe gael ei feirniadu droeon am ei ddull o chwarae.
Roedd yr Adar Gleision dan embargo trosglwyddiadau’r tymor diwethaf, ond roedd modd gwario rhywfaint o arian ym mis Ionawr.