Bydd tîm criced Morgannwg yn teithio i Middlesex heno (nos Iau, Mehefin 6, 6.15yh) ar gyfer eu gêm gyntaf oddi cartref yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast eleni.
Daeth eu buddugoliaeth gyntaf dros Sussex yng Nghaerdydd y penwythnos diwethaf.
Yn y gêm honno, dangosodd Morgannwg gryn addewid gyda’r bat, y bêl ac yn y maes, gyda Chris Cooke yn cyfrannu gyda 40 cyn i Sam Northeast (61 heb fod allan) a Colin Ingram adeiladu partneriaeth allweddol o 99 i sicrhau bod Morgannwg yn sgorio 183 am saith.
Bowliodd Jamie McIlroy yn gampus wedyn, gyda chyfraniadau pellach gan Timm van der Gugten, Marnus Labuschagne, Colin Ingram a Mason Crane yn tawelu batwyr y Saeson.
Bydd Morgannwg hefyd yn teithio i Chelmsford i herio Essex nos fory (nos Wener, Mehefin 7).
Un newid sydd yn y garfan, gyda Will Smale wedi’i ychwanegu.
‘Cyffro’
“Gyda phenwythnos cynta’r T20 y tu ôl i ni, mae awgyrgylch gwych a chyffro yn y garfan,” meddai’r prif hyfforddwr Grant Bradburn.
“Roedd hi’n wych i ni gael dechrau’r gystadleuaeth hon gartref a rhoi blas i’n cefnogwyr yng Ngerddi Sophia o’r brand a’r cyfeiriad newydd rydyn ni eisiau dod ag e i’n tîm.
“Fel grŵp, rydyn ni’n amlwg yn hapus iawn i sicrhau ein buddugoliaeth gyntaf ddydd Sul, ond yn bwysicach na hynny, mae’r tîm wedi gallu cael eu cyflymder a’u rhythm T20 yn ôl ar ôl wyth wythnos o griced pêl goch.
“Byddwn ni’n ymdrechu i ddysgu, addysgu a thyfu’n well gyda phob profiad, ac mae ein chwaraewyr wedi cyffroi yn sgil y gemau oddi cartref cefn-wrth-gefn yr wythnos hon yn erbyn Middlesex ac Essex.”
Carfan Middlesex: S Eskinazi (capten), M Andersson, H Brookes, N Cornwell, J Cracknell, B Cullen, J Davies, J De Caires, L Du Plooy, N Fernandes, T Helm, R Higgins, M Holden, L Hollman
Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), E Byrom, S Northeast, C Ingram, M Labuschagne, C Cooke, D Douthwaite, T Bevan, M Crane, T van der Gugten, J McIlroy, H Podmore, B Kellaway, A Gorvin