Mae Alun Roberts, Cadeirydd Clwb Rygbi Caernarfon, sydd hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Clybiau Rygbi Gogledd Cymru, wedi dweud ei bod hi’n hollbwysig fod clybiau rygbi yn cydweithio a’i gilydd ac yn addasu er mwyn goresgyn y cyfnod o galedi sydd yn wynebu’r gêm yng Nghymru oherwydd y pandemig.
Mewn cyfweliad â Caernarfon360 a BroAber360, mae Clwb Rygbi Caernarfon a Chlwb Rygbi Aberystwyth wedi egluro sut mae clybiau rygbi ar draws y wlad yn parhau i fod yn ran ganolog o’r gymuned, ac wedi rhannu eu gweledigaeth nhw sut bydd chwaraewyr a chefnogwyr yn gallu dychwelyd i’r cae.
“Mae [Covid-19] wedi effeithio yn fawr iawn ar y clwb, a hefyd ar y gymuned, ’run fath ag y mae wedi gwneud ym mhob un clwb a chymuned,” meddai Alun Roberts.
“Os na chawn ni chwarae rygbi, dwi’n gobeithio y bydd modd i ni agor y clwb, cynnal cyfarfodydd, gwneud tipyn bach o ymarfer gan ddilyn y rheolau, agor a gwerthu, cael lleoliad i bobol ddod yma a chyfarfod.
“Mi wneith hynna ddod, ond ein bod ni’n ei wneud yn ddiogel ac yn saff.”
“Dwi’n siŵr bod gennym ni ardd gwrw mwya’ Caernarfon yma – digon o le i ymbellhau’n gymdeithasol o ddau fetr neu hyd yn oed deg metr!”
Rhoddodd Undeb Rygbi Cymru derfyn ar y tymor rygbi fis Mawrth oherwydd y coronafeirws.
Rhan o’r gymuned leol
Mae nifer o glybiau rygbi ar draws y wlad wedi bod yn brysur yn codi arian dros gyfnod y clo mawr.
Bu tîm rygbi merched Caernarfon yn rhedeg, cerdded a seiclo mil o filltiroedd ym mis Mai er mwyn codi arian i Fanc Bwyd Arfon, a Chlwb Rygbi Aberystwyth yn codi arian i Ysbyty Bronglais.
Mae Alun Roberts wedi ategu neges Gareth Davies, Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru fod clybiau rygbi yng Nghymru yn “destun balchder”.
“Un o’r pethau gorau sydd wedi dod allan o hyn, ydy bod pobol a chlybiau yn fwy parod i feddwl am ei gilydd,” meddai Alun Roberts.
“Mae’r cyfnod yma wedi dangos pwysigrwydd clybiau rygbi i’r gymuned – mae ‘na lot o bethau yn cael ei wneud drwy glybiau i’r gymdeithas, a gobeithio bydd clybiau chwaraeon hyd yn oed yn fwy o ran o’r gymuned ar ôl hyn.”
Cymorth ariannol
Yn ôl Brian Morgan, Llywydd Clwb Rygbi Aberystwyth: “Mae wedi bod yn amser tawel iawn i’r chwaraewyr, hyfforddwyr, cefnogwyr a’r noddwyr.”
“Pan ma’ nhw yma mae arian yn dod i mewn i’r clwb, pan dyden nhw ddim, does dim arian yn dod i mewn, ond mae dal taliadau i wneud gan y clwb.
“Ni’n weddol hyderus a chyfforddus ar hyn o bryd, ond wrth gwrs gall llawer newid dros yr wythnosau nesaf, a newid y llun.”
Ar ddechrau’r pandemig derbyniodd pob clwb rygbi yng Nghymru £1,000 gan Undeb Rygbi Cymru.
Mae clybiau rygbi sydd wedi cofrestru fel busnesau hefyd yn gymwys ar gyfer grant o £10,000 gan Lywodraeth Cymru.
Er hyn mae Undeb Rygbi Cymru’n disgwyl gwneud colledion ariannol sylweddol eleni.
Mae Wyn Morgan, Trysorydd Clwb Rygbi Aberystwyth, yn cydnabod fod y cymorth ariannol wedi bod o gymorth mawr i’r clwb. Ond mae’n pryderu beth fydd yn digwydd os na fydd modd i Undeb Rygbi Cymru ddychwelyd i dalu taliadau tymhorol arferol i glybiau lleol, ac os na fydd modd i fusnesau lleol barhau i noddi’r clwb dros y flwyddyn nesaf.
“Rydym ni’n ddibynnol iawn ar ein noddwyr, ac yn ddiolchgar iawn iddyn nhw”, meddai .
“Mae rhaid i ni nawr ffeindio ffordd o fynd at y noddwyr.
“Mae lot o fusnesau wedi gorfod addasu, datblygu a newid eu patrwm oherwydd yr argyfwng.
“Ar ddiwedd y dydd ni yn fusnes hefyd, mae rhaid i ni edrych oes yna ffynonellau eraill a rhywbeth gallem ni wneud yn wahanol.
“Mae rhaid i ni fod yn bositif a symud ymlaen o hyn, a byw mewn gobaith.”
“Dychwelyd erbyn y flwyddyn newydd”
Mae Alun Roberts, Cadeirydd Pwyllgor Clybiau Rygbi Gogledd Cymru, yn credu mai drwy chwarae gemau lleol bydd rygbi cymunedol yn dychwelyd yn gyntaf yng Nghymru.
“Pan gaw ni’r cyfle i chwarae rygbi, dwi’n meddwl mai lleol fydd y gemau”, meddai.
“Mae clybiau rygbi wedi arfer cydweithio â’i gilydd.”
Er hyn mae Alun Roberts yn cydnabod na fydd rygbi lleol yn dychwelyd tan o leia’r flwyddyn newydd, ond mae’n pryderu y byddai gorfod gohirio’r tymor ymhellach na hynny yn arwain at broblemau difrifol i glybiau ar draws y wlad.
“Mae’r tymor diwethaf wedi mynd yn anffodus, dwi’n gobeithio bydd modd i rygbi cymunedol ddychwelyd erbyn y flwyddyn newydd, ond os fyddwn ni’n colli chwe mis arall, bydd ‘na broblem wedyn.”