Mae Undeb Rygbi Cymru’n disgwyl gwneud colledion ariannol sylweddol eleni.
Mae pob rygbi yng Nghymru wedi ei ohirio tan ddiwedd y mis yn sgil pryderon coronafeirws.
Ac mae disgwyl i’r sefyllfa gael ei ymestyn wrth i’r llywodraeth gyflwyno mesurau i gyfyngu ar gasgliadau cymdeithasol mewn ymdrech i rwystro’r feirws rhag lledaenu.
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau y bydd taliadau grant yn cyrraedd y clybiau fel arfer fis Ebrill, yn ogystal â thaliad o £1,000 i bob clwb.
“Dyw hi ddim yn glir pryd y byddwn ni’n gallu ailddechrau chwarae. Mae’n debyg y bydd hi’n fisoedd yn hytrach nag wythnosau,” meddai Undeb Rygbi Cymru.
“Yn ariannol, roedd y flwyddyn yn mynd fel y disgwyl. Fodd bynnag, mae amgylchiadau yn golygu fod y sefyllfa’n anodd ar y cae ac oddi arno.”