Owain Gwynedd, Rhidian Jones ac Illtud Dafydd sy’n cymryd cip i mewn i’r belen grisial
Mae’n teimlo fel bod y paratoadau, y trafod, y dadlau a’r disgwyl wedi bod yn mynd ymlaen ers hydoedd – ond o’r diwedd, rydyn ni ar drothwy chwib gyntaf Cwpan Rygbi’r Byd!
Dros y mis a hanner nesaf fe fydd 20 o wledydd yn brwydro am Gwpan William Webb Ellis a’r hawl i alw’u hunain yn bencampwyr y byd, gyda Chymru, er gwaethaf eu grŵp heriol, yn un o’r rheiny sy’n barod am yr her.
Fe fydd y twrnament yn agor nos Wener gyda gornest rhwng dau o wrthwynebwyr Cymru yn y grŵp, Lloegr a Fiji, ac fe fydd yn rhaid i fechgyn Warren Gatland hefyd oresgyn Uruguay ac Awstralia os ydyn nhw am gyrraedd rownd yr wyth olaf.
Felly pa siawns sydd gan Sam Warburton a’r tîm? All unrhyw un drechu Seland Newydd? Pwy yw’r sêr newydd sydd yn debygol o greu argraff?
A pha eiriau o gyngor sydd gan sylwebwyr Golwg360 – Owain Gwynedd, Rhidian Jones, ac Illtud Dafydd – wrth hyfforddwr Cymru?
Pwy ydych chi’n meddwl wnaiff ennill y gystadleuaeth?
OG – Seland Newydd.
RJ – Rhaid mynd am Seland Newydd.
ID – Seland Newydd, ond mae’r potensial o gêm gogynderfynol yn erbyn Ffrainc yn Stadiwm y Mileniwm unwaith eto wyth mlynedd yn hwyrach yn peri gofid i’r Crysau Duon.
Pa mor bell aiff Cymru?
OG – Mi allai Cymru orffen ar frig y grŵp neu’n bedwerydd. Digon da ar ei diwrnod i guro Awstralia a Lloegr, ond mae safon chwaraewyr Fiji, y perfformiad diweddar yn erbyn Canada a hanes yn dangos bod risg i ni golli iddyn nhw, ac Awstralia a Lloegr, os nad ydan ni ar ein gorau.
RJ – Ail yn y grŵp ac yna cwrdd â De Affrica. Er yr anafiadau a’r ymdrech i ddod mas o’r grŵp mae’n bosib y gallwn ni guro’r Boks o drwch blewyn, cyn colli i Seland Newydd yn y rownd gynderfynol.
ID – Byddai curo Lloegr ar 26 Medi yn arwydd mawr ac yn hwb i’r hyder. Os colli i Loegr bydd cyrraedd y chwarteri cymaint yn galetach. Mas yn y grŵp.
Oes yna dîm mawr ‘da chi’n meddwl fydd ddim yn gwneud cystal â’r disgwyl?
OG – Iwerddon. Tydi eu perfformiadau diweddar heb ysbrydoli hyder ynddyn nhw, yn enwedig yn dilyn perfformiadau a buddugoliaethau yn y Chwe Gwlad.
RJ – De Affrica, roedden nhw’n siomedig ym Mhencampwriaeth y Pedair Gwlad. O bosib Lloegr hefyd – mae’r tîm yn rhy ddibrofiad a bydd pwysau’r wasg a’r dorf yn eu llethu nhw. Byw mewn gobaith..!
ID – Yr Alban. Samoa i gipio’r ail safle yng Ngrŵp B dw i’n meddwl.
Pa dîm ‘da chi’n meddwl fydd syrpreis y twrnament?
OG – Ffrainc, does neb yn siarad amdanyn nhw fel un o’r ffefrynnau. Os ydyn nhw’n curo Iwerddon i ennill eu grŵp fe allan nhw chwarae’r Ariannin yn y chwarteri. Mae gemau gwaeth i’w cael, ac yn ddigon sydyn fe allan nhw fod yn y rownd gynderfynol unwaith eto.
RJ – Ffrainc. Wastad yn mynd yn bell yn y twrnament ac mae ganddyn nhw gyfuniad o bac cryf ac olwyr chwim.
ID – Yr Ariannin. Hanes o guro Ffrainc ac Iwerddon yn ystod y gystadleuaeth, a’r ddau yn wrthwynebwyr tebygol iddyn nhw yn y chwarteri.
Pwy fydd chwaraewr allweddol Cymru yn y twrnament?
OG – Dan Biggar. Mae gwerth ei allu cicio yn fwy nag erioed, ac mae ganddo gyfartaledd llwyddiant o 90% o’i gymharu â 70% Rhys Priestland. Mi allai anaf i Biggar olygu diwedd i obeithion Cymru.
RJ – Justin Tipuric. Synnwn i ddim gweld Gatland yn dewis Tipuric a Warburton yn erbyn Awstralia.
ID – Justin Tipuric i agor gemau a thimau i fyny.
Pa chwaraewr o garfan Cymru allai greu’r argraff annisgwyl fwyaf?
OG – Hallam Amos. Efo anafiadau Cymru ymysg y tri ôl ac Alex Cuthbert yn bell o fod ar ei orau fe allai Amos gael cyfle i wneud argraff sylweddol (a’i hyfforddwr rhanbarthol Lyn Jones wedi awgrymu ei fod yn well nag oedd Shane Williams ar yr oed hwnnw).
RJ – Fe allai Ross Moriarty wneud ei farc.
ID – Matthew Morgan, yr ‘wythfed eilydd’ a fydd, fel Tipuric, yn medru agor gemau a thimau i fyny mewn chwinciad.
Pa dri chwaraewr o’r timau eraill ddylen ni gadw llygad arno?
OG – Julian Sevea (Seland Newydd), Nemani Nadolo (Fiji) ac Anthony Watson (Lloegr).
RJ – Michael Hooper ac Israel Folau o dîm Awstralia, a Jonathan Joseph o Loegr.
ID – Frédéric Michalak (Ffrainc), sydd â gallu gwyrthiol ar gae rygbi er bod cwestiynau am ei reolaeth o’r gêm fel maswr ‘traddodiadol’. Wedyn Waisake Naholo (Seland Newydd), asgellwr peryglus dros ben gyda’r bêl yn ei ddwylo. A Scott Fardy (Awstralia), y rheng ôl barfog sy’n cario’r bêl yn galed ac yn ddibynadwy wrth neidio yn y llinell.
Tasech chi’n cael rhoi brawddeg o gyngor i Warren Gatland, beth fyddai hynny?
OG – Bod ychydig mwy dychmygol a chreadigol. Mae’r dacteg undonog bresennol yn ddiflas i’w wylio ac yn hawdd i’r amddiffyn ei ddarllen, felly gobeithio y bydd Gatland wedi tincro efo pethau cyn y gystadleuaeth.
RJ – Paid dal nôl. Cer amdani!
ID – Trïa bethau gwahanol. Gwell colli wrth drio na cholli wedi trio dim byd newydd.
Oes yna un peth fyddech chi’n ei newid am dwrnament Cwpan y Byd?
OG – Y ffaith bod pedwar tîm (Awstralia, Lloegr, Cymru a Fiji) sydd ymysg y naw gorau yn y byd yn yr un grŵp – mae system dethol y grwpiau angen bod yn decach.
RJ – Bod y grwpiau’n cael eu trefnu yn nes at ddyddiad y Cwpan, nid tair blynedd ynghynt. Dyw e ddim yn gwneud synnwyr bod tair o’r pum gwlad uchaf ar restr y byd mewn un grŵp – ein grŵp ni.
ID – Mae prisiau’r tocynnau wedi bod yn ddrud (mewn cymhariaeth â chystadlaethau eraill), ond mae dros 95% ohonynt wedi’u gwerthu sy’n adlewyrchu’r dilynwyr rygbi sydd yn Lloegr.