Blogwyr golwg360 sy’n edrych yn ôl ar y tymor a fu, a gweld pwy oedd agosaf ati …
Mae tymor rygbi arall ar ben bellach, gyda’r chwaraewyr wedi hedfan ffwrdd am eu gwyliau a’r cefnogwyr yn cael hoe fach cyn i bopeth ddechrau eto ymhen ychydig wythnosau.
Mae’n bryd felly i’n blogwyr ni edrych yn ôl ar y tymor a fu, a gweld pa mor agos oedd eu hymgais nhw ar ddechrau’r tymor i ddarogan sut fyddai pethau’n mynd.
Isod mae Rhidian Jones, Owain Gruffudd, Illtud Dafydd ac Owain Gwynedd yn bwrw golwg nôl dros y tymor a fu.
Enillwyr y Pro 12 – Glasgow
Rhidian Jones (Leinster) – Glasgow’n enillwyr haeddiannol diolch i rygbi pert, agored. Tymor siomedig iawn i Leinster ac fe gollodd yr hyfforddwr Matt O’Connor ei swydd.
Owain Gruffudd (Leinster) – Dwi’n siŵr fod gweld Leinster yn disgyn tu allan i’r pedwar uchaf yn y Pro 12 yn sioc i nifer o bobl, ond dwi’n falch fy mod i wedi cydnabod potensial Glasgow i fod yn beryg eleni.
Illtud Dafydd (Ulster) – Colli yn y rownd gynderfynol i’r Pencampwyr Glasgow!
Owain Gwynedd (Leinster) – Falch i weld bod yr arbenigwyr eraill yr un mor anghywir am Leinster ag oeddwn i, ond gwyliwch allan am bwy arall nes i sôn am … Glasgow!
Cwpan Ewrop – Toulon
RJ (Saracens) – Galacticos oedrannus Toulon yn ennill a Clermont yn colli – mae cwpan Ewrop mor ailadroddus! Saracens yn cyrraedd y rownd gynderfynol.
OGruff (Clermont) – Torcalon yn y rownd derfynol eto i Clermont eleni, a dim sioc i weld Toulon yn ennill unwaith eto. Mae rhywun yn teimlo mai mater o amser yw hi cyn i Les Jaunards gipio prif wobr Ewrop.
ID (Clermont) – Colli yn y ffeinal, gyda Toulon yn dangos eu profiad o ennill.
OGwyn (Toulon) – Mi ddudish i do!
Cwpan Sialens Ewrop – Caerloyw
RJ (Gleision Caerdydd neu Gaerloyw) – Roedd y belen grisial yn gywir tro yma, gyda’r Gleision yn edrych yn dda yn y gemau grŵp ond yna’n llipa yn erbyn y Dreigiau.
OGruff (Caerloyw) – Trydydd cynnig i Gymro! O’r diwedd, un yn gywir! Da gweld llwyddiant i James Hook a Richard Hibbard (yn ogystal â Ross Moriarty!).
ID (Gaerloyw) – Curo Caeredin yn y ffeinal.
OGwyn (Chaerloyw) – rhywun yn sylwi patrwm? Cywir eto. Siom bod Hook a Hibbard ddim am fod yn chwarae yn y brif gystadleuaeth tymor nesa ar ôl colli i Bordeaux 23-22.
Cwpan LV – Saracens
RJ (Northampton) – Un arall o fawrion Lloegr aeth â hi. Tila iawn oedd ymdrechion rhanbarthau Cymru, ac eithrio’r Gleision yn curo Wasps ar ôl bod ar ei hôl hi o 42-17!
OGruff (Caerfaddon) – Dim digon o wybodaeth am ail dimau clybiau Lloegr, felly rôl i’r dis oedd Caerfaddon. Caerwysg hefyd wedi gwneud yn dda.
ID (Sale) – Heb gyrraedd y rownd gynderfynol, felly bell bant!
OGwyn (Harlequins) – Pawb yn anghywir … ond mi oedd darogan enillydd fel dewis ‘lucky dip’.
Enillwyr Uwch Gynghrair Cymru – Pontypridd
RJ (Pontypridd) – Byddai’n braf gweld rhywun yn rhoi her i Bontypridd ond maen nhw ben ac ysgwydd uwchben pawb, a’r cefnogwyr yn cadw eu hymlyniad at draddodiad y clybiau a oedd mor gryf yng Nghymru cyn proffesiynoldeb.
OGruff (Pontypridd) – Dim lot i ddweud yn fan hyn. Ffefrynnau clir unwaith eto eleni. Bydd Cwins Caerfyrddin yn siomedig i lithro o’r tri uchaf erbyn diwedd y tymor.
ID (Pontypridd) – Wedi ennill eleni yn hawdd.
OGwyn (Pontypridd) – Neb yn gallu stopio Ponty ETO … wel, heblaw Pen-y-bont ar ddau achlysur. Da er iechyd clybiau Cymru bod mwy na Ponty wedi ennill cwpan.
Chwaraewr i serennu yn y Pro 12
RJ (Rory Pitman) – Gwnaeth Pitman argraff ar ddechrau’r tymor ond methodd e â chael lle cyson yn nhîm cyntaf y Scarlets, er ei gais nodedig i guro Leinster. Ymhlith rhai o’r sêr tymor yma roedd Scott Williams, Rhys Webb, Craig Gilroy a Finn Russell.
OGruff (Nikola Matawalu) – Perfformiadau Rhys Webb wedi bod yn anhygoel eleni. Matawalu yn parhau i fod yn un o chwaraewyr mwyaf cyffrous rygbi. 8 cais eleni ddim yn ffôl.
ID (Dave Denton) – Heb chwarae llawer, dim ond tymor byr gafodd e, rhwng Tachwedd a Mawrth.
OGwyn (Scott Williams) – Fel ddudodd sylwebydd o Iwerddon tymor yma “a Rolls Royce of a player”. Wedi dod allan o gysgod Jon Fox i’r Scarlets. Mwy o hynny yng Nghwpan y Byd gobeithio.
Prif Sgoriwr Ceisiau y Pro 12 – Rhys Webb
RJ (Hanno Dirksen) – Gwalch arall aeth â hi, sef Rhys Webb, sy’n dipyn o beth am iddo dreulio talp o’r tymor yng ngharfan Cymru.
OGruff (George Watkins) – Dim sylw …
ID (Aled Brew) – Dim ond wedi chwarae pedair gêm lawn, heb sgorio unwaith.
OGwyn (Tim Visser) – Dwi’m yn meddwl bod unrhyw ddilynwr o’r Pro 12 wedi rhagweld tymor anhygoel Rhys Webb, ‘Chwaraewr Gorau’r Pro 12’ a phrif sgoriwr ceisiau. Pawb yn hollol anghywir yn fan ’ma!
Tymor y Dreigiau – 9fed
RJ (wythfed) – Yn nawfed ac wedi esgyn i rownd gynderfynol y Cwpan Her felly roedd y belen grisial yn agos ati.
OGruff (nawfed) – Tymor da i’r Dreigiau, wedi siomi nifer o bobl ar yr ochr orau. Safle yn gywir, yn ogystal â’r ffaith eu bod nhw wedi gwneud yn dda yn Ewrop.
ID (trydydd ymysg rhanbarthau Cymru) – Cyrraedd gêm gynderfynol Ewrop, newyddion da fod Lyn Jones ‘di ail-arwyddo am ddwy flynedd!
OGwyn (seithfed) – Ella bod seithfed bach rhy uchelgeisiol, ond tymor llwyddiannus wrth ystyried eu bod nhw wedi gorffen yn uwch na’r Gleision a chyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Her Ewrop.
Tymor y Gweilch – 3ydd
RJ (seithfed) – Wnes i ddim rhagweld eu tymor da nhw yn y gynghrair ac roedden nhw’n haeddu lle yn y ffeinal mewn gwirionedd. Ond dwy grasfa yn erbyn Northampton yng Nghwpan Ewrop.
OGruff (seithfed) – Dim yr unig un i ddarogan tymor gwael i’r Gweilch cyn y tymor, ond ma’ gin i dipyn o gywilydd erbyn hyn! Perfformiadau cyson gan Dan Biggar, Rhys Webb ac Alun Wyn Jones.
ID (cyntaf ymysg y rhanbarthau) – Rhanbarth cryfaf Cymru, gyda phâr o haneri gorau Cymru.
OGwyn (pedwerydd) – Trydydd, un safle yn well nag oeddwn i’n disgwyl. Tymor llwyddiannus iawn wrth ystyried bod y Galacticos wedi gadael ers amser maith a thîm addawol ifanc yn datblygu!
Tymor y Scarlets – 6ed
RJ (trydydd) – Mae’r garfan wedi edrych braidd yn denau mewn ambell i safle, ond byddan nhw’n fodlon ar gael y chweched safle pwysig.
OGruff (chweched) – Tymor ‘on par’ i’r Scarlets. Parhau yn dîm ifanc fydd yn gallu adeiladu ar eleni. Liam Williams, James Davies, Scott Williams a John Barclay yn sefyll allan.
ID (pedwerydd ymysg y rhanbarthau) – Tymor o sefydlogi, wedi sicrhau eu lle yng nghwpan Ewrop blwyddyn nesaf.
OGwyn (pumed) – Mwy neu lai yn gywir eto, un safle ohoni. Scarlets wedi cyflawni beth roedden nhw angen, sef safle yng Nghwpan Ewrop 2015/16.
Tymor y Gleision – 10fed
RJ (pedwerydd) – Wps!
OGruff (pedwerydd) – Lle i ddechrau? Mae angen newid mawr yn y Gleision, a hynny i ddigwydd yn gyflym. Anodd fyddai cael tymor gwaeth flwyddyn nesaf i dîm y brifddinas.
ID (ail ymysg y rhanbarthau) – Wedi siomi pawb. Arbrawf Mark Hammett wedi methu.
OGwyn (chweched) – Shambyls oddi ar y cae wedi chwalu unrhyw obaith o lwyddiant. Bechod bod Hammett heb gael y cyfle am sawl rheswm i roi ei stamp. Da gweld mod i’n fwy cywir na phawb arall!
Chwaraewr Cymraeg y Flwyddyn
RJ (Gareth Davies) – Mewn gwirionedd y seren oedd mewnwr arall, Rhys Webb. Gwerth crybwyll Liam Williams hefyd.
OGruff (Gareth Davies) – Cael ei wahardd am bum wythnos yn isafbwynt i’r mewnwr, sydd wedi bod yng nghysgod Rhys Webb o ran Cymru. Haf mawr o’i flaen.
ID (Eli Walker) – Wedi’i anafu yn ystod y tymor, ond mae wedi cael ei enwi yng ngharfan paratoi Cwpan Rygbi’r Byd Warren Gatland.
OGwyn (George North) – Mi oedd North yn serennu i Northampton cyn gweld gormod o sêr i Gymru. Profi yn yr Aviva bod o’n dda yn unrhyw gynghrair.
Chwaraewr Ifanc Cymraeg y Flwyddyn
RJ (Dan Baker) – Dyw e ddim yn ifanc iawn ond dyma oedd ei dymor proffesiynol cyntaf, felly James Davies yw fy nghynnig i am y teitl.
OGruff (Macauley Cook) – Mae Cook yn chwaraewr effeithiol sy’n gwneud ei waith yn dawel bach. Dw i’n dal i feddwl y bydd o yn y tîm rhyngwladol yn y dyfodol, ond, o bosib, angen cadw at un safle.
ID (Ellis Jenkins) – Lot o fwg heb dan. Tymor erchyll i’w dîm, a Josh Navidi wedi camu’r goleuni.
OGwyn (Jordan Williams) – Hynod o dalentog ac wedi dangos fflachiadau gwyrthiol, ond ei amddiffyn yn gadael o lawr. Geith o gyfle fel maswr yn absenoldeb Rhys Priestland?
Un Dymuniad am y Tymor
RJ (canolbwyntio ar rygbi da) – Daeth heddwch o’r diwedd, a thro ar fyd yn yr undeb wrth i Gareth Davies ddod yn Gadeirydd a Roger Lewis yn cyhoeddi y bydd yn gadael fel Prif Weithredwr.
OGruff (Owen Williams) – Chwaraewr y Gleision yn parhau i wella’n araf bach o’i anaf difrifol.
ID (curo De Affrica) – Dim byd pert, ond Cymru o’r diwedd yn cael buddugoliaeth dros un o’r ‘Tri Mawr’.
OGwyn (cyd-dynnu) – Bach o harmoni i weld oddi ar y cae ar y funud. Grêt, da i weld! Fydd hynny’n gwella neu waethygu efo ymadawiad buan Roger Lewis?