Mae’r hyfforddwr golgeidwaid Tony Roberts, sy’n wreiddiol o Gaergybi, wedi ymuno â thîm pêl-droed yr Elyrch yn Abertawe.

Bu’n hyfforddi gydag Arsenal ers 2008 ac yn ystod ei yrfa fel chwaraewr bu’n rhan o dimau Cymru, Queens Park Rangers, Millwall a Dagenham & Redbridge.

Fe fydd Tony Roberts, 45, yn olynu Javier Garcia, sy’n dychwelyd i Sbaen am resymau personol.

Dywedodd Gary Monk y bydd yr hyfforddwr newydd yn dod ag “enw da a phrofiad” i’r clwb.

“Mae ganddo enw da rhagorol fel hyfforddwr golgeidwaid blaengar, modern a gwybodus,” ychwanegodd.