Thierry Henry mewn cynhadledd hyfforddi ddiweddar (llun: CBDC)
Mae Thierry Henry wedi mynnu bod modd i dîm pêl-droed Cymru greu sioc ac ennill Ewro 2016 os ydyn nhw’n cyrraedd y gystadleuaeth yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.
Ar hyn o bryd mae’r Ffrancwr, oedd yn rhan o dîm buddugol ei wlad yn Ewro 2000, yn astudio ar gyfer ei fathodynnau hyfforddi pêl-droed.
Ac yn dilyn buddugoliaeth anhygoel Cymru dros Wlad Belg yr wythnos ddiwethaf, mae cyn-ymosodwr Arsenal a Barcelona yn credu y gallai tîm Chris Coleman synnu pawb.
“Nid ydych chi byth yn gwybod [pwy all ennill y bencampwriaeth]. Pwy fyddai wedi meddwl bod Groeg am ennill Ewro 2004? Neb – ond fe wnaethon nhw,” meddai Thierry Henry.
“Os nad ydych chi’n credu, wnewch chi fyth [ennill], mae hynny’n saff.”
“Siawns wych” o gyrraedd
Ar ôl y fuddugoliaeth o 1-0 yn Stadiwm Dinas Caerdydd mae Cymru bellach ar frig eu grŵp rhagbrofol gyda phedair gêm yn weddill.
Ac mae Thierry Henry yn hyderus ar ôl gwylio’r tîm na fyddan nhw’n boddi wrth ymyl y lan tro yma yn eu hymgais i gyrraedd twrnament rhyngwladol, fel sydd wedi digwydd sawl gwaith yn y gorffennol.
“Mae siawns wych ganddyn nhw i gyrraedd. Mae ganddyn nhw gêm anodd oddi cartref yn Cyprus nesaf ond fe ddylai dwy fuddugoliaeth arall fod yn ddigon,” meddai Thierry Henry wrth siarad â’r BBC.
“Dw i’n gwybod y byddai cyrraedd twrnament yn beth mawr iawn i Gymru – ond os ydyn nhw’n llwyddo i’w gwneud hi, mae angen iddyn nhw fynd i Ffrainc gyda’r meddylfryd a’r awch i’w hennill hi.
“Gyntaf oll mae angen cyrraedd yno, wedyn [meddwl] sut allwn ni greu argraff? Dydych chi ddim yn mynd yno am wyliau, rydych chi’n mynd yno i greu argraff.”
GWRANDWCH – Criw Pod Pêl-droed Golwg360 yn trafod y fuddugoliaeth hanesyddol dros Wlad Belg: