Mae Morgannwg wedi curo Swydd Surrey o saith wiced ar ddiwrnod ola’r ornest yn ail adran y Bencampwriaeth yn Guildford.

Roedd gan Forgannwg nod o 247 i ennill wedi iddyn gipio dwy wiced olaf Swydd Surrey i’w bowlio nhw allan am 277 yn ystod sesiwn y bore.

Adeiladodd y capten Jacques Rudolph a Will Bragg (83) bartneriaeth o 77 am y wiced gyntaf cyn i’r capten ddychwelyd i’r pafiliwn ddeg rhediad yn brin o’i hanner canred.

Ond y bartneriaeth nesaf rhwng Bragg a Ben Wright (68) osododd y seiliau ar gyfer y fuddugoliaeth wrth iddyn nhw ychwanegu 128 at y cyfanswm am yr ail wiced, gan sicrhau bod Morgannwg o fewn trwch blewyn o gipio’r pwyntiau.

Y ddau fatiwr o Dde Affrica, Colin Ingram a Chris Cooke oedd wrth y llain pan ddaeth yr ornest i ben, a Morgannwg yn fuddugol o saith wiced.

Ond yn fwy na hynny, bydd yr ornest hon yn cael ei chofio am ganred dwbl allweddol gan Graham Wagg yn y batiad cyntaf pan oedd Morgannwg dan bwysau ac mewn perygl o orfod canlyn ymlaen a cholli’n gyfan gwbl.