Gweilch 26–12 Munster

Dychwelodd y Gweilch i bedwar uchaf y Guinness Pro12 gyda buddugoliaeth dda dros Muntser ar y Liberty brynhawn Sadwrn.

Croesodd Dan Baker am gais a chiciodd Sam Davies 21 o bwyntiau wrth i’r Cymry drechu’r Gwyddelod yn gyfforddus.

Roedd Davies eisoes wedi llwyddo gyda dwy gic gosb cyn i Baker groesi am unig gais y gêm wedi hanner awr o chwarae.

Llwyddodd Davies gyda chic gosb arall wedi hynny cyn ychwanegu gôl adlam yn hwyr yn yr hanner cyntaf i sefydlu 17 pwynt o fantaisi’r tîm cartref ar yr egwyl.

Ymestynnodd Davies y bwlch i ugain pwynt gyda chic gosb arall ar yr awr cyn i Muntser orffen y gêm yn gryf.

Fe sgoriodd Donnacha Ryan a Keith Earls gais yr un yn y deg munud olaf ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi ac roedd hi’n addas mai chic gosb arall o droed Davies oedd pwyntiau olaf y gêm – 26-12 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad yn codi’r Gweilch yn ôl i’r pedwerydd safle yn nhabl y Pro12, ddau bwynt y tu ôl i Munster sydd yn ail. Gall Leinster godi nôl drostynt yn hwyrach nos Sadwrn serch hynny gyda buddugoliaeth ar Barc y Scarlets.
.
Gweilch
Ceisiau:
Dan Baker 31’
Ciciau Cosb: Sam Davies 4’, 22’, 37’, 60’, 74’, 79’
Gôl Adlam: Sam Davies 39’
.
Munster
Ceisiau:
Donnacha Ryan 71’, Keith Earls 76’
Trosiad: Ian Keatley 76’
Cerdyn Melyn: Dave O’Callaghan 30’