Wrecsam 1–0 Caer
Roedd un gôl yn ddigon i Wrecsam wrth iddynt guro Caer yn y Gyngres ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.
Sgoriodd Kieron Morris yn gynnar yn y gêm ddarbi a daliodd y Dreigiau eu gafael tan y diwedd i sicrhau’r tri phywnt.
Roedd Caer eisoes wedi gorfod clirio un cynnig oddi ar y llinell cyn i Morris agor y sgorio wedi saith munud gyda chwip o ergyd o ochr y cwrt cosbi yn dilyn gwaith da Connor Jennings.
Cafodd Morris a Joe Clarke gyfleoedd i ddyblu’r fantais wrth i Wrecsam barhau i reoli’r hanner cyntaf ond aros yr un peth a wnaeth y sgôr.
Doedd y Dreigiau ddim cystal wedi’r egwyl a cael a chael oedd hi wrth iddynt ddal eu gafael. Y Cymro, Gareth Roberts, a ddaeth agosaf i Gaer ond gwnaeth Andy Coughlin yn y gôl yn dda i’w atal.
Mae Wrecsam yn yr unfed safle ar bymtheg yn nhabl Cyngres Vanarama yn dilyn y canlyniad.
.
Wrecsam
Tîm: Coughlin, Tomassen, Smith, Hudson, Ashton, Clarke, Storer (Keates 65′), Evans, Jennings, Moult (Bishop 76′), Morris (York 87′)
Gôl: Morris 7’
.
Caer
Tîm: Worsnop, Higgins, Heneghan, Charnock (Brown 60′), Roberts, Mahon, Rooney, Abbott (James 61′), Hughes, McConville (Hobson 73′), McBurnie
Cardiau Melyn: Mahon 74’, Higgins 87’, Brown 80’
.
Torf: 6,336