Mae Wrecsam wedi gwerthu dros 6,000 o docynnau ar gyfer y ddarbi fawr yn erbyn Caer fory – wrth i’r rheolwr Kevin Wilkin rybuddio’i dîm y bydd yn rhaid iddyn nhw gadw eu pennau ar y cae.
Fe gollodd Wrecsam 2-1 i gôl yn y funud olaf pan chwaraeodd y ddau dîm ei gilydd yn gynharach yn y tymor.
Ond mae’r Dreigiau yn gobeithio gwneud yn iawn am y canlyniad hwnnw o flaen eu torf gartref yn y Cae Ras dydd Sadwrn, a threchu Caer am y tro cyntaf ers i’r ddau glwb ailgyfarfod yn y Gyngres.
Torri record
Llynedd fe wyliodd torf o 6,037 y gêm rhwng y ddau elyn ar y Cae Ras, ac fe ddywedodd y clwb wrth golwg360 heddiw eu bod eisoes wedi gwerthu dros 6,000 ar gyfer y gêm fory.
Does dim modd prynu tocyn ar gyfer y gêm bellach, fodd bynnag, gan fod y swyddfa docynnau bellach wedi cau a’r clwb wedi dweud na fyddan nhw’n gwerthu rhai ar ddiwrnod y gêm.
Mae’r gêm wedi cael ei benodi yn gêm ‘swigen’ gan yr awdurdodau sydd yn golygu bod yn rhaid i gefnogwyr oddi cartref Caer deithio yno ar gludiant penodedig y clwb.
Ond fe fyddan nhw’n teithio i Wrecsam yn hyderus gan eu bod nhw eisoes wedi trechu tîm Kevin Wilkin y tymor hwn a saith safle’n uwch na’r Dreigiau yn y gynghrair.
‘Pwysig i’r dref’
Fe gyfaddefodd rheolwr y Dreigiau Kevin Wilkin ei fod wedi cael llond bol o bobl yn ei atgoffa o’r golled yn erbyn Caer ym mis Medi – gêm oedd yn fyw ar BT Sport.
Ac mae’n dweud bod angen i’w dîm bwyllo os nad ydyn nhw am ailadrodd yr un camgymeriadau y tro hwn.
“Mae’n rhaid i chi chwarae’r gêm, ddim yr achlysur,” meddai Wilkin.
“Chwarae’r gêm, gwneud y gorau gallwch chi, a chadw’ch pennau yn ystod yr adegau tyngedfennol. Os allwch chi wneud hynny mae’n rhoi siawns wych i chi o ennill y gêm.
“Dw i ddim yn meddwl bod angen atgoffa unrhyw un o bwysigrwydd hon i bawb yn y dref a phawb sydd yn ymwneud â’r clwb.
“Rydyn ni wedi cyffwrdd ar hynny sawl gwaith yn ystod yr wythnos a does dim amheuaeth gan bobl beth fydd e’n ei olygu i’r ddau glwb i ennill y gêm.”