Gleision 21–15 Caeredin

Daeth wythnos anodd i’r Gleision i ben gyda buddugoliaeth dros Gaeredin ar Barc yr Arfau yn y Guinness Pro12 brynhawn Sul.

Collodd y tîm yn Treviso ddydd Sul diwethaf cyn i’r prif hyfforddwr, Mark Hammett, adael ei swydd yn ystod yr wythnos, ond cafwyd perfformiad da heddiw wrth i’r Cymry ennill a sgorio ambell gais da yn y broses.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y Gleision yn dda ac roeddynt yn haeddu mynd ar y blaen gyda’r cais agoriadol wedi deunaw munud, Lloyd Williams, y mewnwr yn rhedeg o fôn sgarmes symudol i groesi, 7-0 wedi trosiad Rhys Patchell.

Cafodd y ddau dîm gerdyn melyn yr un wedi hynny, Manoa Vosawai i’r Gleision am dacl uchel a Mike Coman i Gaeredin am drosedd yn ardal y dacl.

Roedd Gavin Evans yn meddwl ei fod wedi croesi am ail gais y Gleision wedi hynny ond sylwodd y dyfarnwr ar bas ymlaen yn gynharach yn y symudiad.

Doedd dim rhaid i’r tîm cartref aros yn hir serch hynny cyn i Ellis Jenkins blymio drosodd yn dilyn dadlwytho gwych gan sawl chwaraewr yng nghysgod y pyst, 14-0 y sgôr ar hanner amser yn dilyn trosiad llwyddiannus arall.

Ail Hanner

Cafodd Caeredin ei cyfnod gorau ar ddechrau’r ail gyfnod ac roeddynt o fewn pedwar pwynt ar yr awr yn dilyn cic gosb a throsiad o droed Tom Heathcot a chais i Tim Visser. Holltodd yr asgellwr trwy’r amddiffyn yn rhy rhwydd o lawer yn dilyn symudiad taclus o sgrym.

Sgoriodd Patchell drydydd cais y Cymry chwarter awr o’r diwedd, y maswr oedd y dyn rhydd ar yr asgell yn dilyn cyfnod hir o bwyso gan ei dîm ac roedd golau dydd rhwng y ddau dîm eto wedi trosiad gwych y ciciwr o’r ystlys.

Daeth cais Roddy Grant ddeg munud o’r diwedd â Chaeredin yn ôl o fewn sgôr ond daliodd amddiffyn y Gleision yn ddewr er eu bod i lawr i bedwar dyn ar ddeg gyda Josh Turnbull yn y gell gosb.

Mae’r canlyniad yn codi’r Gleision dros y Dreigiau i’r nawfed safle yn nhabl y Pro12.

.
Gleision
Ceisiau:
Lloyd Williams 18’, Ellis Jenkins 40’, Rhys Patchell 64’
Trosiadau: Rhys Patchell 19’, 40’, 65’
Cardiau Melyn: Manoa Vosawai 27’, Josh Turnbull 68’
.
Caeredin
Ceisiau:
Tim Visser 55’, Roddy Grant 70’
Trosiad: Tom Heathcote 56’
Cic Gosb: Tom Heathcote 45’
Cardiau Melyn: Mike Coman 33’, Dougie Fife 78’