Syr Malcolm Rifkind
Fe allai’r cyn-bêldroediwr Sol Campbell sefyll fel ymgeisydd Ceidwadol i olynu Syr Malcolm Rifkind.
Fe fu adroddiadau ers cryn amser fod cyn-amddiffynnwr Spurs ac Arsenal yn ystyried mentro i’r byd gwleidyddol, ac fe allai ymddiswyddiad Rifkind yn ddiweddar gynnig y cyfle i Campbell sefyll yn etholaeth Kensington.
Dywedodd Campbell wrth raglen Murnaghan ar Sky News fod gwleidyddiaeth yn un o’r opsiynau y mae’n eu hystyried ar hyn o bryd.
“Un cam ar y tro. Dw i’n meddwl am lawer o bethau.”
Wrth drafod ei safbwyntiau gwleidyddol, dywedodd ei fod yn cytuno â’r egwyddor o gynnal refferendwm ar aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd cyhyd â bod pleidleiswyr yn “gwybod y ffeithiau a’r ffigurau”.
Ychwanegodd fod rhaid “sicrhau bod pobol Prydain yn gwybod beth sy’n digwydd”.
“Dw i’n edrych ar barth yr Ewro a dw i’n edrych ar yr Almaen – yr unig reswm pam fod yr Almaen yn hoff iawn o’r Ewro yw am eu bod nhw’n gwneud cymaint o arian oherwydd bod y [Deutsch] Mark mor ddrud.”