Jack Cork
Mae chwaraewr canol cae Abertawe, Jack Cork wedi dweud y gall ei dîm sicrhau eu cyfanswm mwyaf o bwyntiau erioed yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn.

Cyrhaeddodd yr Elyrch 40 o bwyntiau ddoe yn dilyn eu buddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Burnley yn Turf Moor – dydyn nhw erioed wedi cyrraedd y cyfanswm hwnnw mor gynnar yn y tymor mewn pedair blynedd yn yr Uwch Gynghrair.

Anfonodd Kieran Trippier y bêl i’w rwyd ei hun i roi’r fuddugoliaeth i’r Elyrch.

Dywedodd Cork: “Mae’n gyflawniad gwych i gyrraedd 40 o bwyntiau yn y cyfnod hwn yn y tymor.

“Dim ond am bedair gêm dw i wedi bod yma ond galla i weld gymaint mae’n ei olygu i’r staff a’r chwaraewyr sydd wedi bod yma ers cynifer o flynyddoedd.

“Ar y cyfan, roedd hi’n gêm anodd.

“Roedden ni’n gwybod y byddai’n rhaid i ni weithio’n galed a bod yn barod am y ffordd y bydden nhw’n chwarae.

“Fe wnaethon ni ddwyn gôl yn yr ail hanner ac roedd yn dri phwynt da yn y diwedd.

“Byddai’n wych cael adeiladu ar hyn. Rydyn ni am gyrraedd 47 o bwyntiau gyda 12 o gemau’n weddill.

“Mae gyda ni gêm anodd yn Tottenham ond gobeithio y gallwn ni sicrhau tri phwynt arall a thair buddugoliaeth o’r bron.”