Tegid Siôn Richards
Tegid Siôn Richards sydd eisiau gweld Cymru’n arbrofi gyda’u steil yn Murrayfield …
Er y galw am newid dramatig yn nhîm Cymru ar gyfer ail rownd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, cafodd y tîm ei enwi ddydd Mercher gyda dim ond un newid, a hynny oherwydd anaf (Liam Williams yn lle George North).
A oes digon o brofiad yng ngharfan rygbi Cymru; a oes modd dysgu o’r camgymeriadau; ac a ydy hi’n amser newid?
Dim yn fethiant llwyr
Yn syml, nos Wener ddiwethaf, Cymru oedd y ffefrynnau i ennill y gêm. Gyda charfan gref heb yr un anaf sylweddol, ac 11 o Lewod yn y pymtheg ddechreuodd y gêm, roedd hi’n anodd gweld ymhellach na buddugoliaeth i’r dynion mewn coch.
Yn enwedig gan gofio mai rhyw fath o ail dîm oedd gan Loegr, gyda llawer o anafiadau i’w chwaraewyr profiadol.
Ar yr un llaw, er mai colli oedd y canlyniad, doedd Lloegr ddim wedi ennill pob agwedd o’r gêm yn ystod yr 80 munud.
Y gwir amdani yw bod Cymru wedi dangos ysbeidiau o rygbi da yn yr hanner cyntaf, gyda chicio tactegol wrth ymosod, ac amddiffyn cadarn, wrth orffen yr hanner cyntaf ar y blaen gyda sgôr o 16-8.
Yn amlwg roedd y canlyniad ar ddiwedd y gêm yn siom i unrhyw Gymro neu Gymraes, ond colli oherwydd cryfder bwystfilaidd blaenwyr Lloegr wnaethon nhw, ac nid oedd yn fethiant llwyr.
Herio’r Alban
Felly a ddylai Gatland fod wedi gwneud mwy o newidiadau yn nhîm Cymru ar gyfer y gêm yn Murrayfield?
Mae’r gwrthwynebwyr ddydd Sul tipyn yn wahanol o’i gymharu â’r gelynion gwyn, ac yn edrych braidd yn fregus ar dir y chwarae.
Felly efallai bod hi’n syniad dewis chwaraewyr mwy hygyrch o garfan Cymru, sy’n berchen ar weledigaeth, chwant ac awydd i gyflymu tempo’r gêm.
Yn ystod yr Hydref, dangoswyd i’r byd faint o dalent sydd yng ngharfan tîm yr Alban wrth iddyn nhw frwydro yn arw gyda goreuon Hemisffer y De.
Gallwn ddweud bod yr Alban yn gwella gyda phob gêm, ac roedd bron iddyn nhw ennill ym Mharis ar benwythnos agoriadol y Chwe Gwlad eleni.
Ond er bod yr Alban wedi ymdrechu’n galed i amddiffyn yn y gêm, doedden nhw ddim yn gallu cael digon o feddiant ar y bêl er mwyn sgorio yn yr ail hanner yn erbyn Ffrainc; sy’n debyg iawn i Gymru yn erbyn Lloegr.
Newid steil cyn Cwpan y Byd?
Yng ngharfan Cymru mae yna chwaraewyr dawnus sydd yn ysu i wisgo’r crys coch. Gan ystyried bod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn araf ddiflannu o ddwylo Cymru, a ydy hi’n amser edrych i’r dyfodol, ac yn fanylach, cystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd?
Oherwydd hynny, efallai bod hyn yn fendith gudd i Gatland fod nawr ganddo gyfle i roi profiad i’r chwaraewyr sydd ei angen er mwyn cryfhau dyfnder y garfan.
Mae gan Gymru chwaraewyr sydd yn gallu newid ac ennill gemau hollbwysig fel yr un yn erbyn Lloegr, megis Liam Williams, Scott Williams a Justin Tipuric.
Gall Liam Williams ddarganfod gwagle a manteisio’n greadigol ar y cyfle; rhywbeth mae e wedi dangos yn llawer o gemau’r Scarlets eleni.
Mae gan Scott Williams ddawn ddyfeisgar hefyd, ac mae wedi serennu’n gyson wrth gynrychioli’r Scarlets neu Gymru.
Ac yn olaf, y dewin Justin Tipuric, sydd o hyd yn creu anghyfleustra i unrhyw dîm o amgylch y ryc, ac yn lleoli ei hun yn glyfar ar y cae.
Mae tîm Cymru yn cael eu hadnabod am eu grym noeth a’u pŵer i oresgyn y timoedd Ewropeaidd, ond mae marc cwestiwn wedi cael ei osod ar y garfan yn nhermau gemau rhyngwladol gyda thimoedd Hemisffer y De.
Wrth ystyried hyn, mae’r chwaraewyr a enwyd uchod gyda’r sgiliau a’r gallu i guro unrhyw dîm.
Cyfle i eraill
Ydy hi’n amser felly i gynnig cyfle i ddatblygu chwaraewyr eraill i’n tîm cenedlaethol?
Er mai anafiadau a orfododd Stuart Lancaster i newid ei dîm i wynebu Cymru, rhoddodd hyn gyfle euraidd i’r sêr ifanc llai profiadol serennu, a dangos i’r rheolwr eu bod nhw’n gallu chwarae cystal â’r chwaraewyr profiadol sydd fel arfer yn dechrau i Loegr.
Dwy flynedd yn ôl, pan drechodd Cymru’r Saeson 30-3 yn Stadiwm y Mileniwm, gorfodwyd Gatland i baru Justin Tipuric gyda Sam Warburton yn y rheng ôl oherwydd anaf.
Yn absenoldeb Dan Lydiate fe wnaeth y ddau ohonyn nhw chwalu’r Saeson, gyda Tipuric yn allweddol ar gyfer dau gais Alex Cuthbert.
Efallai mai’r consensws yw nad oes angen i Gymru frawychu ar ôl colli un gêm i dîm da ar benwythnos agoriadol y Chwe Gwlad, ac felly bod dim galw am newid radicalaidd.
Ond os nad oes newid yn dod ar ôl canlyniadau siomedig, mae hyn yn rhoi sicrwydd ffals i’r tîm cyntaf bod eu henwau ar y crysau yn ddiogel, ac nid yw’n cynnig siawns i chwaraewyr gystadlu am safleoedd, a chreu fwy o undod yn y tîm.
Tybed a fydd Warren Gatland yn ystyried dewis chwaraewyr yn ôl pwy sy’n chwarae’n dda ar hyn o bryd, yn hytrach na’r un hen stori, pe bai Cymru yn perfformio’n wael yn Murrayfield?