Gleision 17–23 Dreigiau

Y Dreigiau aeth â hi yn y gêm ddarbi yn erbyn y Gleision ar Barc yr Arfau brynhawn Gwener Gŵyl San Steffan, diolch yn bennaf i berfformiad eu blaenwyr.

Yr ymwelwyr a gafodd y gorau o’r chwarter cyntaf ond dim ond un cic gosb o droed Tom Prydie oedd ganddynt i’w ddangos am hynny.

Yna, ddeg  munud cyn yr egwyl, fe ddaeth y cais cyntaf haeddianol i’r Dreigiau, y bachwr, Elliott Dee, yn sgorio wedi sgarmes symudol daclus o linell bum medr.

Llwyddodd Prydie gyda’r trosiad cyn ychwanegu cic gosb hefyd i ymestyn y fantais i 13 pwynt, cyn i Gareth Davies gau’r bwlch hwnnw i ddeg gyda chic olaf yr hanner cyntaf.

Dechreuodd yr ail gyfnod yn debyg, gyda blaenwyr y Dreigiau’n rheoli. Deilliodd yr ail gais o sgarmes symudol o ugain medr ac er i Dee dirio eto roedd y dyfarnwr eisoes wedi rhedeg o dan y pyst i ddynodi cais cosb.

Rhoddodd eilyddion y Gleision fymryn o hwb i’r tîm cartref ac roeddynt yn ôl yn y gêm gyda deg munud i fynd diolch i gais yr un i’r clo, Jarrad Hoeata, a’r eilydd fewnwr, Tavis Knoyle.

Troswyd y ddau gais gan Gareth Anscombe a dim ond tri phwynt oedd ynddi cyn i Prydie roi mymryn o awyr iach rhwng y ddau dîm eto gyda chic gosb chwe munud o’r diwedd. Felly yr arhosodd pethau tan y diwedd wrth i’r Dreigiau ennill yn haeddianol.

Maent yn aros yn ddegfed yn nhabl y Guinness Pro12 serch hynny ond yn cau’r bwlch ar y Gleision, sydd yn nawfed, i ddau bwynt. Bydd y ddau dîm yn herio’i gilydd eto ar Rodney Parade ar ddydd Calan.

.

Gleision

Ceisiau: Jarrad Hoeata 63’, Tavis Knoyle 70’

Trosiadau: Gareth Anscombe 64’, 71’

Ciciau Cosb: Gareth Davies 40’,

.

Dreigiau

Ceisiau: Elliott Dee 31’, Cais Cosb 47’

Trosiadau: Tom Prydie 32’, 48’

Ciciau Cosb: Tom Prydie 17’, 37’, 74’