Nile Ranger
Mae rheolwr Clwb Pêl-Droed Blackpool, Lee Clark wedi apelio am wybodaeth ynghylch yr ymosodwr Nile Ranger, sydd heb ymarfer gyda’r clwb ers dros bythefnos.

Dywed Clark ei fod yn credu bod Ranger wedi mynd i Lundain, ond dydy e ddim wedi llwyddo i gysylltu â’r chwaraewr 23 oed.

Dywedodd y rheolwr wrth y wasg leol: “Os all unrhyw un roi gwybod i ni ble mae e, anfonwch lythyr ata i ac fe awn ni o fan’na.”

Cadarnhaodd Clark fod Ranger wedi cael ei ddewis ar gyfer gemau yn ystod yr wythnosau diwethaf, ond ni wnaeth e droi i fyny i’r stadiwm.

Nid dyma’r tro cyntaf i Ranger gythruddo’i gyflogwyr.

Cafodd ei gytundeb gyda Swindon ei ddiddymu ym mis Mai yn dilyn nifer o faterion disgyblu.