Bafetimbi Gomis
Mae adroddiadau’n awgrymu y gallai ymosodwr Abertawe, Bafetimbi Gomis fod ar ei ffordd allan o’r clwb, gyda Crystal Palace ymhlith y clybiau sy’n awyddus i’w arwyddo.

Mae rheolwr Crystal Palace, Neil Warnock wedi dweud y byddai Gomis yn addas fel partner ar gyfer Dwight Gayle, ac mae’n debyg eu bod nhw wedi cynnig £6.5 miliwn am y Ffrancwr.

Ond mae o leiaf bump o glybiau eraill yn yr Uwch Gynghrair hefyd wedi dangos diddordeb ynddo.

Un fuddugoliaeth yn unig a gafodd Crystal Palace mor belled mewn 11 o gemau y tymor hwn.

Mae’r ffenest drosglwyddo’n ail-agor ar Ionawr 1.