Bydd y rhan o fwyaf o gefnogwyr pêl-droed Cymru yn gyfarwydd â’r arwyddair ‘Gorau Chwarae Cyd Chwarae’, ond efallai na fydd cymaint yn sylweddoli tarddiad y rhyfelgri.

Wrth i mi alw draw i Barc Ivor i wylio Pont-y-clun yn erbyn Treforys y noson o’r blaen, yr hyn oedd wedi fy nharo gyntaf oedd y fainc drawiadol wrth y fynedfa i’r maes parcio gyda’r geiriau eiconig arni. Cafodd y fainc ei chyflwyno i’r cyhoedd ar Fai 18 eleni, a’r syniad wedi’i ysbrydoli gan Steffan Rhys Williams i ddathlu geiriau ymddangosodd gyntaf ar grys Cymru mewn gêm rhwng Cymru a’r ‘Great Britain XI’ yn 1951.

Wrth gwrs, byddwch am wybod y sgôr yn y gêm honno – buddugoliaeth i Gymru o dair gôl i ddwy, gyda goliau gan Ivor Allchurch (dwy) a Trevor Ford i’r tîm cartref ar Barc Ninian. Mae’n werth nodi bod chwaraewyr o safon Alf Sherwood, Walley Barnes, Ron Burgess a Roy Paul yn chwarae i Gymru, a Tommy Docherty, Billy Wright a Nat Lofthouse yn chwarae i’r gwrthwynebwyr.

Yn y 1920au a’r 1930au, Thomas Edward Russell oedd ysgrifennydd y Clwb, a bu hefyd yn ysgrifennydd Cymdeithas Bêl-droed De Cymru (1936-1960) cyn ei ethol yn Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru (1967-1972). Roedd yn allweddol wrth sicrhau bod y Gymdeithas yn mabwysiadu’r arwyddair, ond mae’r fainc hefyd yn gyfle i gofio bywyd a gyrfa’r cyn-chwaraewr rhyngwladol Keith Pontin, fu farw yn Awst 2020.

Cefais sgwrs gyda Steffan, a deall bod y syniad wedi dod iddo’n “sydyn wrth ysgrifennu e-bost blin at y Cyngor Cymuned yn cwyno ynghylch y meinciau jiwbilî gath eu rhoi lan rai blynyddoedd yn ôl!”

“O’n i wedi clywed am hanes Keith Pontin ac arwyddair y Gymdeithas Bêl-droed ac yn meddwl y byddai’n well o lawer dathlu pethau sydd wir yn destun balchder lleol.”

Dechreuodd yr ymwelwyr yn gryf gyda gôl gynnar wedi pedair munud gan Samuel Wilson, ond yn araf bach daeth y tîm cartref i mewn i’r gêm, ac yn hwyr yn yr hanner cyntaf bu bron i Nathan Renfree sgorio gyda chic rydd gwbl arbennig o ymyl y cwrt cosbi. Fodd bynnag, cafwyd arbediad gwych iawn gan Steven Cann – cyn gôl-geidwad trefi Aberystwyth, Caerfyrddin a Phort Talbot.

Rhan o hwyl gwylio pêl-droed yw’r digwyddiadau anarferol sy’n digwydd yn ystod gemau! Yn gynharach eleni, wrth wylio Cwm Welfare, rhuthrodd y dyfarnwr oddi ar y cae yn ystod symudiad reit addawol gan y tîm cartref, gan anelu am y tŷ bach a gweiddi “I can’t hold it in boys!”

Yn y gêm rhwng Pont-y-clun a Threforys, cafwyd oedi yn y chwarae gan fod llwynog bach ar y cae gafodd ei glirio’n reit sydyn!

Wrth i’r ymwelwyr wthio am yr ail gôl, roedd teimlad y gallai’r ‘Clun’ fod wedi cael gôl yn ôl, gyda Rhys Morgan yn edrych yn gryf yn y llinell flaen. Roedd pawb yn y dorf sylweddol yn grediniol bod Ashleigh Twigg, un arall o gyn-chwaraewyr Tref Port Talbot, wedi rhoi’r ymwelwyr ymhellach ar y blaen gyda tharan o beniad, ond roedd y blaenwr yn camsefyll.

Bu’n rhaid aros ychydig yn hirach cyn i’r eilydd Stephen Daley roi Treforys ymhellach ar y blaen ar ôl 80 munud. Doedd dim goliau pellach i’r naill dim na’r llall – ond bydd y ddau dîm yn wynebu ei gilydd tymor nesaf a hwythau wedi llwyddo i osgoi disgyn i Haen 4.

Llongyfarchiadau i Bontyclun am sicrhau bod ganddyn nhw fainc drawiadol sy’n dathlu lle’r clwb yn hanes y gêm yng Nghymru, ac sy’n goffâd teilwng i chwaraewr rhyngwladol gafodd ei golli mor ifanc mewn ffordd mor greulon.