Eli Walker
Mae’r asgellwr Eli Walker wedi llofnodi cytundeb dwy flynedd newydd gyda’r Gweilch.

Dywedodd y  Gweilch heddiw eu bod nhw wrth eu boddau fod Walker wedi cytuno i aros gyda’r clwb hyd nes haf 2016.

Mae Eli Walker yn 21 oed ac yn gyn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Penyrheol. Mae wedi chwarae mewn 37 gêm i’r Gweilch ac wedi sgorio 10 cais.

Dywedodd Walker ei fod yn awyddus i aros gyda’r Gweilch ac nad oedd yn gallu dychmygu chwarae i unrhyw dîm rhanbarthol arall.

Dywedodd Andy Lloyd o’r Gweilch fod Walker wedi datblygu fel chwaraewr dros y ddwy flynedd diwethaf.

Mae Eli Walker wedi ei anafu ar hyn o bryd.