Tom Finney
Bu farw Tom Finney, sy’n cael ei ystyried yn un o’r peldroedwyr gorau a welodd Lloegr erioed. Roedd yn 91 oed.
Chwaraeodd Finney i dîm Preston North End rhwng 1946 a 1960, ac fe chwaraeodd i Loegr mewn 76 o gemau. Roedd yn chwarae ar yr asgell.
Sgoriodd 187 o goliau i’w glwb ac fe enillodd teitl Peldroediwr y Flwyddyn ddwywaith.
Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd Bobby Charlton fod cyfraniad Finney i bêl-droed yn anfesuradwy.
Dywedodd Cadeirydd y Gynghrair Pêl-droed yn Lloegr, Greg Clarke, fod Tom Finney yn ŵr bonheddig ac o bosib y chwaraewr gorau sydd erioed wedi chwarae i’r gynghrair.
Cafodd Tom Finney ei urddo’n farchog yn 1998.