Garry Monk - gobeithio curo Everton
Mae prif hyfforddwr yr Elyrch, Garry Monk wedi dweud y bydd ei dîm yn gobeithio ennill y gêm gwpan yn erbyn Everton brynhawn Sul.
Bydd Abertawe yn teithio i Barc Goodison ar gyfer y gêm yn y bumed rownd o gwpan yr FA yn dilyn buddugoliaethau yn erbyn Manchester United a Birmingham.
Bydd y ddau dîm yn brwydro am le yn yr wyth olaf o’r cwpan. Mae Monk wedi mwynhau dechrau da i’w yrfa fel prif hyfforddwr gyda buddugoliaeth yn erbyn Caerdydd ar y Liverty a gêm gyfartal yn Stoke.
‘‘Byddwn yn gwneud ein gorau i ennill. Cawsom brofiad da mewn cystadleuaeth gwpan y tymor diwethaf ac wrth gwrs mae yna hanes arbennig i gystadleuaeth y Cwpan FA ac mae’r chwaraewyr yn edrych ymlaen at y gêm.
“Os y gallwn gael perfformiadau a chanlyniadau da yn ystod y mis hwn, bydd hyn o gymorth i ni hyd ddiwedd y tymor,” meddai Monk.
Anghofio gêm mis Rhagfyr…
Fe wnaeth Everton guro’r Elyrch 2-1 ar y Liberty ym mis Rhagfyr. Mae Everton, o dan gyn-reolwr a chwaraewr Abertawe, Roberto Martinez, yn mwynhau tymor da ac yn gobeithio am le yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf.
‘‘Yr oeddwn yn dod ymlaen yn dda gyda Roberto pan oedd e yma, fe ddysgais lawer ganddo ac mae’n ddyn arbennig ac yr ydym yn dal mewn cysylltiad,’’ meddai Monk.
Hefyd fe wnaeth ganmol ei chwaraewyr gan ddweud iddynt ymateb yn dda i’r feirniadaeth fu arnynt. Dywedodd bod Michu wedi ymarfer ac os y bydd yn teimlo yn iawn efallai y bydd yn chwarae rhyw ran yn y gêm dydd Sul.