Warburton - gêm i'r Gleision y penwythnos hwn
Mae capten tim rygbi Cymru, Sam Warburton, wedi dweud bod y chwaraewyr i gyd fel unigolion ac fel tîm “yn awyddus i daro’n ôl” ar ôl y siom o golli yn erbyn yr Iwerddon.

Bydd gêm nesaf Cymru yn erbyn Ffrainc wythnos i heno.

‘‘Yr oedd y canlyniad yn erbyn yr Iwerddon yn hynod o siomedig gyda llawer gormod o gamgymeriadau. Mae’n rhaid i ni fel blaenwyr gymryd llawer o’r bai am y canlyniad.

“Wnaethon ni ddim cadw’r bêl yn ddigon da, a doedd yna ddim digon o angerdd yn ein chwarae,” meddai.

“R’yn ni’n gweithio’n galed ar yr agweddau aeth o’i le gan obeithio y bydd popeth yn dod at ei gilydd yn erbyn Ffrainc. Mae’n bwysig ein bod wedi ennill deg o’r deuddeg gêm olaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad,’’ dywedodd Warburton.

Chwarae i’r Gleision

Fe fydd Sam Warburton yn chwarae i’r Gleision y penwythnos hwn er mwyn codi lefel ei ffitrwydd.

“Rwy’n edrych ymlaen at y gêm ac at wisgo crys glas y rhanbarth gan nad wyf wedi chwarae iddynt ers mis Hydref,” meddai. “Gobeithio y galla’ i fod o help iddyn nhw ennill.

“Yr oedd y canlyniad yn erbyn Munster yn siomedig ond bydd gennym gyfle i roi perfformiad da gartref dydd sadwrn,’’ meddai.

Bydd Warburton a gweddill carfan Cymru yn cwrdd dydd Sul i barhau gyda’r ymarfer ar gyfer gêm Ffrainc. Nid yw Warburton yn credu y bydd taith y Llewod yn amharu ar bethau.

Mae’r rhanbarthau ar garfan genedlaethol wedi gofalu ar ôl y chwaraewyr ers dychwelyd o’r daith. Yr ydym yn canolbwyntio ar rai perfformiad da yn erbyn Ffrainc.