Ole Gunnar Solskjaer
Bydd Caerdydd yn croesawu Wigan i’r brifddinas brynhawn fory – ac fe fyddan nhw’n gobeithio na fydd eu tymor nhw’n efelychu un y Latics llynedd.
Llwyddodd Wigan i godi Cwpan yr FA yn 2013 ar ôl trechu Man City yn y ffeinal, cyn disgyn o’r Uwch Gynghrair ychydig ddyddiau’n ddiweddarach.
Dyw’r ddau glwb erioed wedi chwarae’i gilydd yn y gwpan hon, a hon fydd y tro cyntaf erioed i Wigan ymweld â Stadiwm Dinas Caerdydd.
Ond mae rheolwr Caerdydd Ole Gunnar Solskjaer yn gobeithio y gall Caerdydd wneud un yn well y tymor hwn na Wigan y llynedd, ac anelu am lwyddiant yn y gwpan tra’n aros yn y gynghrair hefyd.
“Dydw i ddim yn poeni [am ennill y gwpan a disgyn o’r Uwch Gynghrair],” meddai Solskjaer yn y gynhadledd i’r wasg cyn y gêm. “Hoffwn fynd un yn well ac ennill y gwpan ac aros lan.
“Rydych chi wastad eisiau ennill pob gêm gwpan. Mae gen i garfan fawr felly fe fydd yn gyfle i ddau neu dri i ddangos i mi eu bod nhw’n haeddu chwarae yn y gynghrair.
“Mae’n gyfle i adeiladu momentwm a chyfle i rai chwaraewyr gael mwy o gemau a chynyddu’u ffitrwydd. Hon fydd y tro cyntaf mewn tair blynedd i ni chwarae gartref yng Nghwpan yr FA.
“Rydym ni’n chwarae’r deiliaid, ac fe ddangosodd Wigan y llynedd beth allwch chi wneud yn y gwpan. Mae’n gyfle i glybiau fel ni ennill tlws.”
Newidiadau ar y gweill
Ni fydd Fabio da Silva a Kenwyne Jones ar gael i’r Adar Gleision brynhawn Sadwrn oherwydd eu bod nhw eisoes wedi chwarae dros glybiau eraill yn y gwpan.
Mae Solskjaer hefyd yn aros am gadarnhad gan Man United fod hawl ganddo i chwarae Wilfried Zaha yfory, ond dywedodd ei fod yn disgwyl na fydd gan United wrthwynebiad i hynny.
Bydd disgwyl i Solskjaer wneud nifer o newidiadau i’r tîm a chwaraeodd yn erbyn Aston Villa nos Fawrth, er mwyn cadw rhai o’r prif chwaraewyr yn ffres ar gyfer y gynghrair.
Ond gyda rhai’n cwestiynu gwerth y gystadleuaeth o ystyried y wobr ariannol llawer mwy sydd ar gael o aros yn yr Uwch Gynghrair, roedd hi’n amlwg fod rhamant y gwpan dal yn fyw i reolwr Caerdydd.
“Roeddwn i ar y cae lleol nifer o weithiau, ar ben fy hun, yn dychmygu sgorio gôl yn ffeinal Cwpan yr FA,” cyfaddefodd Solskjaer.
“Honno oedd wastad y gêm fwyaf ar y teledu yn Norwy. Breuddwyd pob chwaraewr yw chwarae yn Wembley.”