Mae’r Gleision wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi arwyddo cytundeb gyda Josh Turnbull fyddai’n gweld y blaenasgellwr yn symud iddyn nhw ar ddiwedd y tymor.
Bydd Turnbull, sy’n 25 oed a hefyd yn medru chwarae fel wythwr, yn gadael y Scarlets yn yr haf er mwyn cryfhau opsiynau’r Gleision yn y rheng ôl.
Ymunodd Turnbull â’r Scarlets yn 2007, gan chwarae 119 gwaith dros y rhanbarth yn ogystal ag ennill pum cap dros Gymru, yr olaf o’r rheiny yn 2012.
Ac fe ddywedodd cyfarwyddwr rygbi’r Gleision Phil Davies fod y clwb yn falch iawn o allu cryfhau’u carfan wrth arwyddo Turnbull.
“Rydym ni’n hynod o falch fod Josh wedi cytuno i ymuno â’r Gleision,” meddai Phil Davies. “Mae’n bwysig iawn i ni ein bod ni wedi’i arwyddo.
“Roedden ni’n edrych am chwaraewr profiadol a blaenasgellwr ochr dywyll. Gydag Andreas Pretorius yn ein gadael a Michael Paterson wedi mynd y llynedd, roedd e’n safle roedden ni wedi canolbwyntio arno.
“Rwy’n ei nabod yn dda ers fy nghyfnod gyda’r Scarlets, gan mai fi roddodd ei gêm gyntaf iddo, ac mae’n chwaraewr yr wyf wastad wedi’i ddilyn a’i edmygu.”
Uchelgais rhyngwladol
Dywedodd Turnbull wrth arwyddo ei fod yn gobeithio gallu chwarae’n fwy rheolaidd yn y crys rhif chwech y mae’n ei ffafrio fwyaf.
Ond mae hefyd yn gobeithio y bydd symud i’r Gleision yn y pen draw’n arwain at gyfle rhyngwladol arall gyda Chymru.
“Mae’r Gleision eisiau ychwanegu dyfnder yn rhif 6 a dyna le ydw i eisiau chwarae,” meddai Josh Turnbull. “Rwyf eisiau canolbwyntio ar un safle a symud fy ngyrfa lefel yn uwch.
“Mae arnaf lawer o ddiolch i bawb yn y Scarlets. Rwyf wedi gweithio gyda llawer o hyfforddwyr a chwaraewyr gwych ac rwy’n gadael gyda llawer o atgofion hapus.
“Yn y pen draw mae gen i uchelgais i chwarae dros Gymru eto. Dydw i heb wneud ers hydref 2012 ac mae hynny’n darged mawr i mi.”
Scarlets yn dymuno’n dda – ac arwyddo Barkley
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Simon Easterby ei fod yn deall penderfyniad Turnbull dros symud i’r Gleision y tymor nesaf.
“Mae Josh wedi bod yn awyddus i ganolbwyntio ar chwarae fel rhif chwech,” meddai Easterby. “A chyda’r gystadleuaeth sydd gennym ni yn y safle yna doedden ni methu ymrwymo i’r safle honno’n llwyr, felly rydyn ni’n deall ei resymau dros symud.
“Rydym yn diolch iddo am ei gyfraniad a phopeth y mae wedi’i gyflawni fel Scarlet. Rydym yn parchu’i benderfyniad i herio’i hun yn wahanol mewn awyrgylch newydd ac yn dymuno’n dda iddo gyda’r Gleision y tymor nesaf.”
Olly Barkley
Fe fydd Turnbull ar gael i’r Scarlets nes diwedd y tymor – ac un fydd yn ymuno ag ef yng ngharfan y rhanbarth am y pedwar mis nesaf fydd y maswr Olly Barkley.
Mae Barkley wedi ymuno â’r Scarlets nes diwedd mis Mai o Grenoble yn Ffrainc, gyda’r gŵr 32 oed sydd wedi ennill dros ugain o gapiau dros Loegr yn cryfhau carfan sydd wedi colli Rhys Priestland i dîm Chwe Gwlad Cymru.
Dywedodd Barkley wrth arwyddo fod ei gyfnod yn Grenoble wedi bod yn un “rhwystredig”, a’i fod yn edrych ymlaen at chwarae digon yn ystod ei gyfnod yn Llanelli.