Mae David Cameron wedi gwyrdroi penderfyniad y Swyddfa Gartref ac wedi mynnu eu bod yn ailystyried er mwyn sicrhau bod tafarndai yn gallu aros ar agor ar gyfer gem Lloegr yn erbyn yr Eidal yng Nghwpan y Byd.
Roedd y Prif Weinidog wedi ymyrryd ar ôl i’r Swyddfa Gartref wrthod cais gan dafarndai i ymestyn eu horiau agor ar gyfer y gêm ar 14 Mehefin, sy’n cychwyn am 11yh.
Dywedodd ffynhonnell: “Fe fyddwn ni nawr yn ymgynghori gyda’r diwydiant tafarndai, yr heddlu a chynghorau ynglŷn â’r ffordd orau i sicrhau bod tafarndai ar agor ar gyfer y gêm am 11yh.”
Roedd Cymdeithas Cwrw a Thafarndai Prydain (BBPA) wedi gwneud cais i ymestyn oriau trwydded ar draws y wlad o 11yh tan 1yb ar 14 Mehefin er mwyn caniatáu i gefnogwyr wylio’r gêm.
Ond ar ôl i’r gweinidog yn y Swyddfa Gartref Norman Baker wrthod y cais, roedd yn golygu bod yn rhaid i dafarndai wneud ceisiadau unigol i’w hawdurdodau lleol i ymestyn eu trwydded – ar gost o £21 yr un.
Mae’r BBPA, sy’n cynrychioli 49,400 o dafarndai Lloegr yn credu y gallai ymestyn yr oriau agor fod yn werth £20 miliwn ychwanegol i’r diwydiant mewn gwerthiant diod a bwyd.
Mae prif weithredwr y BBPA Brigid Simmonds wedi croesawu ymyrraeth David Cameron.
“Fe fyddai hyn yn newyddion gwych i filoedd o dafarnwyr a miliynau o gefnogwyr pêl-droed. Rwyf wrth fy modd bod y Prif weinidog wedi ymyrryd ac wedi cefnogi tafarndai Prydain gan ei gwneud yn glir fod ymgyrch Lloegr yng Nghwpan y Byd yn amser i ddathlu.”