Michael Laudrup
Mae cadeirydd Abertawe Huw Jenkins wedi gwadu bod y clwb yn ystyried diswyddo’r rheolwr Michael Laudrup yn syth, wrth i’r tîm barhau i gael trafferthion ar y cae.

Collodd Abertawe o 2-0 yn erbyn West Ham, canlyniad sy’n eu gadael nhw ddau bwynt yn unig uwchlaw safleoedd disgyn o’r Uwch Gynghrair.

Dim ond un o’u deg gêm ddiwethaf yn y gynghrair – gartref yn erbyn Fulham yr wythnos diwethaf – y mae Abertawe wedi’i hennill, gan godi gofidion ymysg rhai cefnogwyr.

Mae adroddiadau hefyd yn awgrymu bod disgwyl i Laudrup, sydd heb weld llygad yn llygad â Jenkins ynglŷn ag arwyddo chwaraewyr yn y gorffennol, adael ar ddiwedd y tymor.

Ond fe wadodd Huw Jenkins fod y bwrdd wedi cyfarfod ddoe i drafod dyfodol Laudrup ac yn ystyried rhoi’r sac iddo yn sgil y canlyniadau siomedig diweddar.

“Dydw i heb glywed unrhyw beth ynglŷn â Michael a dydyn ni heb gyfarfod, na thrafod, na gwneud unrhyw beth am Michael,” meddai Huw Jenkins wrth y BBC wrth drafod y sefyllfa.

“Fe wnaeth cwpl ohonom ni gyfarfod ar fore dydd Sul er mwyn cael paned o goffi fel yr ydym ni’n arfer gwneud. Dyna’n syml oedd hi.

“Dyna ble ddaeth y sïon. Mae’n anodd i mi ddweud unrhyw beth oherwydd does dim i’w drafod.”

Y ddarbi fawr

Mae’r Elyrch yn paratoi i wynebu Caerdydd y penwythnos hwn yn ail ddarbi de Cymru’r tymor yn yr Uwch Gynghrair.

Colli 1-0 wnaeth Abertawe yn y gêm ddiwethaf rhwng y ddau dîm yn Stadiwm Dinas Caerdydd ym mis Tachwedd, ac fe ddywedodd Huw Jenkins mai ennill ar y penwythnos oedd eu blaenoriaeth.

“Ennill y gêm hon yw’r peth pwysicaf i’r ddau dîm,” meddai. “Pan gollwch chi gemau, pan mae popeth mor dynn ar waelod yr Uwch Gynghrair, fe gewch chi sïon a straeon.

“Rydym ni wedi’u cael nhw ers wythnosau. Os ydyn ni’n ennill mae popeth yn iawn. Os gollwn ni fydd hi ddim.”