Leigh Halfpenny - ar ei ffordd i Ffrainc?
Yn y cyntaf o flogiau newydd golwg360 ar rygbi Cymru, Owain Gruffudd sy’n trafod sut all trafferthion Cwpan Ewrop daro’r Rhanbarthau’n galetach fyth…
Bum mlynedd yn ôl, enillodd tîm rygbi Cymru eu hail Gamp Lawn o fewn tair blynedd. Diddorol yw edrych yn ôl ar y garfan honno heddiw a sylwi mai dim ond dau o’r chwaraewyr – Gareth Delve a Gareth Cooper – oedd yn chwarae y tu allan i Gymru ar y pryd.
Wrth gamu ‘mlaen at heddiw, a Chymru wedi ennill pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn gynharach eleni, mae’r sefyllfa’n wahanol iawn. Erbyn hyn mae llu o’n sêr rhyngwladol wedi cael eu denu gan arian mawr clybiau Ffrainc a Lloegr, wrth i ranbarthau Cymru ei chael hi’n amhosib cystadlu â’r cyflogau sy’n cael eu cynnig gan glybiau tu allan i gynghrair y RaboDirect.
Gyda chystadleuaeth Cwpan Heineken bellach dan fygythiad enbyd, does posib y bydd mwy o chwaraewyr eto yn gadael, wrth i glybiau pwerus Ffrainc a Lloegr geisio denu’r goreuon i’w carfannau.
Picil i dimau’r Pro12
Mae’r ffaith fod y clybiau hynny yn Lloegr a Ffrainc wedi mynd ati i sefydlu cystadleuaeth ar wahân i’r Cwpan Heineken ar gyfer blwyddyn nesaf yn gadael clybiau Cynghrair RaboDirect mewn tipyn o bicil. Yn ôl gwefan ESPN, roedd y clybiau yn derbyn tua £1.2 miliwn o bunnau’r un allan o’r gystadleuaeth – sy’n golygu y bydd hyd yn oed llai o arian ar gael i’r rhanbarthau allu cynnig cytundebau cystadleuol i’w prif sêr o hyn allan.
Bu’n frwydr galed i gadw gafael ar y sêr, a brwydr aflwyddiannus i’r Gleision a’r Dreigiau wrth i Dan Lydiate a Jamie Roberts fynd i chwarae i Racing Metro ym Mharis.
Colli George North
A’r ergyd fwyaf o bosib hyd yn hyn oedd gweld Northampton yn llwyddo i ddenu George North o’i gytundeb â’r Scarlets – ac yntau yn ddim ond 21 mlwydd oed.
Ond daeth newydd da i’r rhanbarthau yn gynnar y tymor yma, wrth i’r Dreigiau sicrhau gwasanaethau Toby Faletau tan 2016 – a hynny heb gymorth gan Undeb Rygbi Cymru.
Ond mae’r pryder yn parhau wrth i arian mawr Ffrainc a Lloegr dargedu tri chwaraewr allweddol arall sydd allan o gytundeb ar ddiwedd y tymor – Leigh Halfpenny a Sam Warburton o’r Gleision a Jonathan Davies o’r Scarlets.
Er bod sôn wythnos yma fod y tri eisiau parhau i chwarae dros eu rhanbarthau, mae’n anodd gweld sut fedran nhw aros os nad oes cyfle iddynt gystadlu yn erbyn rhai o dimoedd a chwaraewyr gorau’r byd mewn cystadleuaeth Ewropeaidd.
Ond un peth ydi trio llenwi’r bwlch cystadleuol hwnnw ar y cae chwarae, mater arall ydi ceisio llenwi’r bwlch yn eu cyflogau wrth geisio cystadlu hefo cyfrifon banc clybiau fel Toulon, Clermont a Racing Metro.
Nid yw’n fêl i gyd
Wrth gwrs, nid yw’r arian a’r bywyd moethus wedi golygu fod pob chwaraewr wedi llwyddo ers symud i Ffrainc a Lloegr. Dyw James Hook a Lee Byrne prin yn chwarae dros Gymru ers symud i Perpignan a Clermont, ac fe gafodd Gethin Jenkins ei orfodi i symud yn ôl i’r Gleision ar ôl treulio llynedd ar fainc Toulon (y lleia’ ddywedir am gyfnodau Gavin Henson gyda Toulon, Saracens a Bath, y gorau!).
Ychwanegwch hynny at y ffaith fod rheolau’r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol yn caniatáu i’r clybiau hyn rwystro eu chwaraewyr rhag chwarae mewn gemau tu allan i’r ‘ffenestr ryngwladol’, sydd yn cynnwys un gêm o brofion yr Hydref, fel arfer, a daw’n amlwg fod ’na fanteision mewn aros yma yng Nghymru.
Opsiynau’r rhanbarthau
Felly pa opsiynau sydd i ranbarthau Cymru? Yn amlwg byddan nhw angen cefnogaeth gref gan yr Undeb wrth gynnig cytundebau i’w prif chwaraewyr. Wedi’r cyfan, mae’r rheiny yn treulio canran uchel o’r tymor gyda’r garfan ryngwladol. Mae si bod y rhanbarthau yn edrych am ffyrdd i ymuno â Chynghrair Aviva yn Lloegr – ond go brin y byddai clybiau Lloegr yn cytuno ar hynny!
Mae’r Pwyllgor Rygbi Ewropeaidd yn fod i gyfarfod yn Nulyn ddiwedd y mis yma er mwyn gweld os oes modd achub y Cwpan Heineken. Gallai hyn fod yn allweddol i ddyfodol y gêm ranbarthol yma yng Nghymru.
Ond siomedig, a dweud y lleiaf, ydi sylwi nad yw’r ERC i weld ar frys i drafod y mater hwn. Mae ’na sawl wythnos wedi pasio ers i ni glywed am gynlluniau clybiau Ffrainc a Lloegr, cynlluniau all roi’r farwol i Gwpan Heineken, ond yma ni’n gorfod aros am dair wythnos arall cyn clywed beth fydd ymateb y corff sy’n rhedeg y gystadleuaeth honno.
Mae fel gweld meddyg yn gohirio llawdriniaeth frys, yn y gobaith y bydd y claf yn ‘dal hefo ni’ ymhen ychydig wythnosau.
Gallwch ddilyn Owain ar Twitter ar @owainwg