Mae Ewen McKenzie wedi cael ei enwi fel prif hyfforddwr newydd tîm rygbi Awstralia yn dilyn ymddiswyddiad Robbie Deans.
Penderfynodd Robbie Deans roi’r gorau iddi yn dilyn colli’r gyfres 2-1 yn erbyn y Llewod.
Daeth ei ymddiswyddiad ar ôl i’r Wallabies gael eu trechu 41-16 yn y trydydd prawf ddydd Sadwrn yn Sydney.
Dywedodd prif weithredwr Undeb Rygbi Awstralia, Bill Pulver: “Ar ôl sefydlu’r meini prawf angenrheidiol, a siarad â’r bobl berthnasol, rydym yn argyhoeddedig mai Ewen yw’r dyn i fynd â’r Wallabies ymlaen.”
“Rhoddwyd ystyriaeth i sgiliau arweinyddiaeth, disgyblaeth, gallu hyfforddi, record hyfforddi, a ffactorau pwysig fel cymeriad, gwerthoedd ac arddull o chwarae.”