Nile Ranger
Mae cyn chwaraewr gyda thîm pêl-droed Newcastle United wedi ei gyhuddo o dreisio.
Bydd Nile Ranger, sy’n 22 oed ac yn dod o Lundain, yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Newcastle ym mis Awst, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Northumbria.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: “Fe gafodd achos o dreisio ei adrodd i’r heddlu ar ddydd Iau, Ionawr 24, 2013 sydd mewn perthynas â digwyddiad yn ystod oriau man y bore ddydd Mercher, Ionawr 23 mewn gwesty yn Jesmond. Mae Nile Ranger o Harringay, Llundain wedi ei gyhuddo o dreisio.”
Cafodd Nile Ranger ei ryddhau o Newcastle United fis Mawrth ond nid yw wedi cael ei arwyddo gan dîm arall hyd yn hyn.