Andries Pretorius
Mae wythwr y Gleision Andries Pretorius wedi cael ei adael allan o weddill ymgyrch Cymru ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn dilyn llawdriniaeth i’w ysgwydd.
Cafodd Pretorius ei enwi yng ngharfan Cymru, ond nid oedd wedi cael ei gynnwys i chwarae eto.
Roedd anaf i ‘w ysgwydd wedi gwaethygu wrth chwarae yn erbyn Caeredin yn gynharach y mis hwn, ac fe gafodd lawdriniaeth ddydd Gwener. Mae disgwyl iddo i ddychwelyd i ymarfer mis Mai.