Dan Biggar
Mae hyfforddwr cynorthwyol Cymru, Neil Jenkins wedi dweud bod y maswr Dan Biggar wedi codi ei gêm i lefel arall ar ôl sicrhau ei safle ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad i Gymru.
Yn dilyn anaf Rhys Priestland, cafodd Biggar y cyfle i ddechrau yn safle’r maswr yn gêm agoriadol Cymru ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Iwerddon.
Gyda dechreuad go sigledig yn erbyn Iwerddon, yn ôl Jenkins, mae Biggar wedi gwella’n sylweddol a sicrhau’r crys rhif 10 gyda buddugoliaethau Cymru yn Ffrainc ac yn yr Eidal.
‘‘Mewn gwirionedd, fe wnaeth y gêm yn erbyn Iwerddon byd o les i Dan i gamu i’r lefel nesaf. Roedd yn wych yn erbyn Ffrainc ac yn yr Eidal, mae’n aeddfedu drwy’r amser,’’ meddai Jenkins.
Mae Biggar wedi gorfod aros ei dro yng ngharfan Cymru, lle’r oedd yn gorfod cystadlu gyda Rhys Priestland, James Hook a chyn hynny Stephen Jones.