Mae’r Gweilch wedi dweud na fydd y rhanbarth mewn sefyllfa i arwyddo chwaraewyr newydd yn ystod yr haf oherwydd prinder arian.
Mae Pencampwyr y RaboDirect Pro12 wedi sefydlu ei hunain fel y tîm fwyaf llwyddiannus yn y gystadleuaeth, ar ol ennill y teitl bedair gwaith.
Ond mae rheolwr y Gweilch, Jonathan Humphreys yn dweud bod colli chwaraewyr i’r gemau rhyngwladol wedi bod yn sefyllfa anodd i’r Gweilch.
Dywedodd ei fod yn rhwystredig na allai’r Gweilch gryfhau ei garfan, ac yn bryderus y byddai’r rhanbarth yn cwympo ymhellach tu ôl i’w gwrthwynebwyr yn y Pro12 a’r Cwpan Heineken.
Mae’r Gweilch wedi gweld nifer o’i chwaraewyr yn gadael yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda’r mewnwr Kahn Fotuali yn un o’r chwaraewyr diweddaraf i adael y Gweilch i fynd i Northampton.
Yn ogystal mae’r Gweilch wedi colli nifer o chwaraewyr rhyngwladol dros y blynyddoedd fel y prop Paul James, yr asgellwyr Tommy Bowe a Nikki Walker, y maswr James Hook, y mewnwr Mike Phillips, y cefnwr Lee Byrne a’r blaen asgellwyr Jerry Collins a Marty Holah.