Michael Laudrup
Mae cadeirydd Clwb Pêl-droed Abertawe, Huw Jenkins wedi dweud eu bod nhw’n agos at gytuno ar delerau i gadw’r rheolwr, Michael Laudrup yn Stadiwm Liberty am dymor ychwanegol.
Mae ei gytundeb presennol yn dod i ben yn 2014, ond mae’r clwb yn ffyddiog o gytuno ar estyniad am flwyddyn arall.
Yn dilyn llwyddiant yr Elyrch yng Nghwpan Capital One ddydd Sul, ac yn sgil eu safle yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn, mae nifer o glybiau Sbaen wedi dangos diddordeb yn Laudrup.
Eisoes, mae Real Madrid wedi mynegi eu diddordeb, tra bod Chelsea a Manchester City hefyd yn cadw llygad ar y gŵr o Ddenmarc.
Ac mae’r sylw sydd wedi ei roi i Laudrup wedi cynyddu unwaith eto ar ôl i’w dîm godi Cwpan Capital One yn dilyn buddugoliaeth o 5-0 yn erbyn Bradford yn Wembley.
Gorymdaith
Cafodd yr achlysur ei ddathlu neithiwr mewn gorymdaith a derbyniad arbennig yn y ddinas.
Mae’r fuddugoliaeth yn golygu y bydd Abertawe’n cystadlu yng Nghynghrair Europa y tymor nesaf.
Dywedodd Huw Jenkins: “Yn bersonol, does gen i ddim amheuaeth na fydd e yma’r tymor nesaf. Rwy’n credu y bydd e yma ac mae e wedi dweud y bydd e’n ufuddhau i’w gytundeb.
“Mae Michael wedi dweud o’r blaen ei fod e am aros yma tymor nesaf. Os edrychwch chi ar ei yrfa cyn iddo fe ddod yma, roedd angen iddo fe ddod o hyd i’r clwb iawn a chael sefydlogrwydd fel rheolwr.
“Roedd angen amser arno er mwyn dangos y gallai weithio mewn amgylchfyd am gyfnod o flynyddoedd a bod yn llwyddiannus, sef yr hyn y mae’r rheolwyr gorau’n ei wneud.
“Roedden ni’n teimlo cyn iddo fe ymuno mai dyma’r lle iawn ar gyfer hynny, ac mae hynny wedi dod yn wir.
“Byddech chi’n meddwl er ei les e mai’r peth iawn i’w wneud yw aros gyda ni a gweld lle’r ydyn ni tymor nesaf.”
‘Sefydlogrwydd’
“Mae gyda ni sefydlogrwydd tan haf nesaf pan fydd ei gytundeb dwy flynedd bresennol yn dod i ben ac mae gyda ni amser i sicrhau bod gyda ni ragor o sicrwydd gyda hynny, ac mae’n rhywbeth y byddwn ni’n edrych arno yn yr wythnosau nesaf,” meddai Huw Jenkins.
Roedd asiant Laudrup eisoes wedi dweud cyn y fuddugoliaeth yn Wembley fod Michael Laudrup am arwyddo cytundeb newydd gyda’r Elyrch.