Barrow 0–1 Wrecsam
Mae Wrecsam ar frig Uwch Gynghrair y Blue Square o hyd ar ôl curo Barrow oddi cartref yn Stryd Holker nos Fawrth.
Cipiodd y Dreigiau y tri phwynt gyda gôl hwyr yr eilydd, Kevin Thornton, er gwaethaf y ffaith iddynt orfod chwarae bron i hanner awr gyda deg dyn yn dilyn cerdyn coch Jay Harris.
Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr fe aeth tasg Wrecsam yn anoddach toc wedi’r awr pan dderbyniodd Harris ei gerdyn coch.
Ond aeth y Dreigiau amdani o hyd a gyrrodd Andy Morrell dri eilydd ar y cae i geisio ennill y gêm. A gyda chwe munud o’r naw deg ar ôl fe gyfunodd y tri, Glen Little, Robert Ogleby a Thornton i greu gôl holl bwysig i Thornton.
Roedd buddugoliaethau i Kidderminster, Grimsby a Mansfield nos Fawrth hefyd ond roedd tri phwynt Wrecsam yn ddigon i’w cadw hwy ddau bwynt yn glir ar frig y Gyngres.
Cafodd gêm Casnewydd yn Gateshead ei gohirio oherwydd eira yng ngogledd ddwyrain Lloegr.
.
Barrow
Tîm: Hurst, Skelton, Pearson, Sodje, Owen (McEvilly 90’), Rutherford, Baker, Rowe, Harvey, Hunter, Rowe
Cardiau Melyn: Owen 72’, Sodje 90’
.
Wrecsam
Tîm: Maxwell, Wright, Ashton, Riley, Westwood, Harris, Keates (Thornton 60’), Clarke, Hunt (Ogleby 60’), Wright, Ormerod (Little 70’)
Gôl: Thornton 84’
Cardiau Melyn: D. Wright 60’, D. Wright 80’
Cerdyn Coch: Harris 66’
.
Torf: 889